Mynd i'r cynnwys

Technegydd Goleuo

Sefydliad

Theatr Clwyd Trust Ltd

Lleoliad

Yr Wyddgrug

Disgrifiad

Mae Theatr Clwyd yn chwilio am Dechnegydd Goleuo profiadol, gyda sgiliau mewn rigio, ffocysu a’r gwneuthuriad o drydan set, i fod yn rhan o’r tîm Goleuo. Gydag arbenigedd mewn hwyluso pob gofynion goleuo, mae’r tîm yn darparu gwasanaeth i gynyrchiadau Theatr Clwyd o’r safon uchaf bosib, gan weithio yn ein gofodau theatr sydd newydd gael eu hadnewyddu.

Math o Gontract: Parhaol
Oriau: 37 yr wythnos
Cyfweliad: W/C 07/04/2025
Bydd y Technegydd Goleuo yn gweithio fel rhan o’r tîm goleuo i ddarparu gwasanaeth sydd o’r safon uchaf bosibl i holl gynyrchiadau Theatr Clwyd a chynyrchiadau sy’n ymweld. Mae'r rôl yn gofyn am lefel dda o wybodaeth am oleuo o fewn cyd-destun creu theatr a sgiliau ymarferol cadarn. Mae ein Teulu Creu Theatr yn darparu cyfleusterau creu theatr o safon byd ac mae’r Technegydd Goleuo’n cefnogi ein gwaith cynhyrchu, yn ogystal â chefnogi’r cwmnïau sy’n ymweld rydym yn eu gwahodd i’n hadeilad.

Cyfrifoldebau Allweddol

Darparu cefnogaeth gyda holl ofynion Goleuo cynyrchiadau Theatr Clwyd, a gweithio gydag aelodau’r tîm creadigol i sicrhau bod cefnogaeth dechnegol mewn goleuo yn cael ei rhagweld a’i darparu ar gyfer holl waith Theatr Clwyd, y tu mewn a’r tu allan i’r adeilad, gan gynnwys cefnogi tîm Technegol y Lleoliad ar gyfer cynyrchiadau sy’n ymweld a digwyddiadau.
Ymgymryd â gwaith ymarferol mewn perthynas â gwneud gofynion LX penodol ar gyfer cynyrchiadau Theatr Clwyd, gan gynnwys gwaith trydanol setiau ac unrhyw LX ymarferol yn yr adran props / gwisgoedd.
Ymgymryd â gwaith ymarferol mewn perthynas â dod i mewn, ffitiadau, datgymalu a mynd allan, gan gynnwys cydosod, rigio, addasu a defnyddio offer goleuo, effeithiau arbennig (gan gynnwys gwaith trydanol setiau) ac unrhyw brops LX ymarferol ac ati.
Darparu cefnogaeth goleuo a thechnegol i holl ddefnyddwyr y theatr ac unrhyw ofod ymarfer.
Darparu cefnogaeth goleuo a thechnegol yn ystod perfformiadau yn ôl yr angen.
Gosod unrhyw offer technegol sydd ei angen ar gyfer gofod perfformio neu ddigwyddiadau.
Lle bo angen, darparu cymorth technegol i ddefnyddwyr allanol.
Bod yn gyfrifol am agor a chau’r ardaloedd cefn llwyfan pan fo angen.
Gyda'r Technegwyr eraill, cynnal a chadw'r ardaloedd cefn llwyfan yn gyffredinol, gan gynnwys y llwyfan, y bocsys rheoli golau a sain, y gweithdy LX a’r mannau storio, gan sicrhau eu bod yn cael eu cadw'n lân ac yn daclus ac yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda bob amser.

Dolen i Ymgeisio

https://www.theatrclwyd.com/cy/jobs/rheolwr-digwyddiadau

Cyflog

£25,732

Dyddiad cau

March 30, 2025

E-bost

people@theatrclwyd.com