Cydlynydd Tg
Sefydliad
Theatr Clwyd Trust Ltd
Lleoliad
Yr Wyddgrug
Disgrifiad
Rôl greiddiol wrth gynnal ac optimeiddio ein systemau a'n rhwydweithiau cyfrifiadurol. Gan adrodd yn uniongyrchol i'r Rheolwr TG, chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer materion technegol, gan sicrhau datrysiad prydlon ac uwchgyfeirio priodol pan fo angen. Bydd eich ymdrechion yn hanfodol i gynnal perfformiad system optimal a chyflawni lefelau uchel o foddhad ymhlith defnyddwyr.
Math o Gontract: Parhaol
Oriau: 37 yr wythnos
Cyfrifoldebau allweddol:
Cefnogaeth rheng flaen: Canfod a datrys problemau caledwedd, meddalwedd a rhwydwaith, gan ymddwyn yn broffesiynol bob amser a chanolbwyntio ar y cwsmer.
Rheoli tocynnau: Rheoli tocynnau wedi'u codi a chadw ein systemau Desg Gymorth a CRM yn gyfredol, gan sicrhau bod tasgau'n cael eu cwblhau o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt.
Cefnogaeth ar y safle ac o bell: Darparu cefnogaeth TG i gwsmeriaid ar y safle ac o bell, gan ddarparu atebion prydlon ac effeithiol.
Cydweithredu fel tîm: Gweithio'n agos gyda chyd-aelodau eich tîm, gan ddarparu cefnogaeth yn ôl yr angen a chydweithredu ar brosiectau mwy.
Rheoli baich gwaith: Blaenoriaethu a rheoli tocynnau niferus, tasgau a phrosiectau bach ar yr un pryd.
Cefnogi’r system weithredu: Darparu cefnogaeth i Windows yn ogystal â phlatfformau cynhyrchiant fel Office 365
Gosod meddalwedd: Gosod a rheoli rhaglenni meddalwedd ar draws dyfeisiau niferus.
Cefnogaeth Argraffydd a Chlyweledol: Datrys problemau a chefnogi argraffwyr, sganwyr, llungopïwyr, ac offer clyweledol
Rheoli Dyfeisiau Symudol (MDM): Cynorthwyo i reoli a chynnal dyfeisiau symudol.
Dolen i Ymgeisio
https://www.theatrclwyd.com/cy/jobs/swyddog-pobl-2-2
Cyflog
£27,643
Dyddiad cau
March 23, 2025