Mynd i'r cynnwys

Rheolwr Theatr

Sefydliad

Cyngor Bwdeistref Sirol Conwy

Lleoliad

Bae Colwyn

Disgrifiad

Ydych chi’n frwd dros theatr, ffilm a diwylliant, gyda’r sgiliau i arwain lleoliad celfyddydol deinamig? Rydym yn chwilio am Reolwr profiadol a brwdfrydig ar gyfer Theatr Colwyn, i oruchwylio’r gwaith o redeg, rhaglennu a datblygu un o sinemâu gweithredol hynaf y DU ac un o fannau diwylliannol mwyaf gwerthfawr Gogledd Cymru.

Ychydig filltiroedd yn unig i ffwrdd, mae ein chwaer-leoliad, Venue Cymru, sef canolfan gelfyddydol fwya’r ardal, sy’n cynnig cyfle cyffrous i chi fod yn rhan o rwydwaith creadigol ehangach.

Wedi’i lleoli yn nhref hanesyddol Bae Colwyn – gyda’r môr a’r mynyddoedd o’i chwmpas, ac o fewn cyrraedd hwylus i Fanceinion a Lerpwl – mae’r swydd hon yn cynnig cyfle i chi greu argraff go iawn ar fywyd diwylliannol ein cymunedau.

Rydym yn chwilio am unigolyn proffesiynol sydd â phrofiad amlwg ym maes rheoli theatr neu sinema, gwybodaeth gadarn am raglennu a gweithrediadau blaen tŷ, a’r gallu i arwain ac ysbrydoli aelodau staff a gwirfoddolwyr i gynnig gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid a chynnal digwyddiadau diogel a chroesawgar.

Os ydych chi’n arweinydd deinamig gyda sgiliau trefnu rhagorol a gwir gariad tuag at y celfyddydau a diwylliant, byddem wrth ein boddau’n clywed gennych chi.

Mae hon yn swydd barhaol llawn amser a bydd yr oriau gwaith ar gytundeb oriau blynyddol, sef cyfartaledd o 37 awr yr wythnos wedi’u trefnu yn unol â’r system y cytunwyd arni o weithio rota shifftiau, gan gynnwys gweithio ar benwythnosau, gyda’r nos ac ar wyliau banc.

Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Emma Joyce, Pennaeth Cynorthwyol yr Adain (Emma.joyce@veneucymru.co.uk / 01492 879771)

Dolen i Ymgeisio

https://webrecruitment.secure.conwy.gov.uk/itlive_webrecruitment/wrd/run/etrec179gf.open?WVID=771951DBXU&LANG=CYM

Cyflog

£37,280 - £39,862

Dyddiad cau

November 6, 2025

E-bost

helen.e.davies@venuecymru.co.uk