Mynd i'r cynnwys

Rheolwr Datblygu

Sefydliad

NoFit State Circus

Lleoliad

Caerdydd

Disgrifiad

Mae NoFit State Circus yn chwilio am Reolwr Datblygu brwd, uchelgeisiol a threfnus sydd ag angerdd gwirioneddol dros y celfyddydau a'n gwaith ni.

Rhaid i chi fod yn un ardderchog am adeiladu a meithrin perthnasoedd, yn gallu meddwl yn y tymor hir ac yn strategol, ac addasu i anghenion amrywiol y byd cyfnewidiol o'n cwmpas.

NoFit State yw’r mwyaf o gwmnïau syrcas gyfoes y Deyrnas Unedig. Bob blwyddyn, rydym yn dod i gysylltiad â rhwng 120,000 a 150,000 o bobl o bob oedran a chefndir ledled Cymru, y Deyrnas Unedig a’r byd. Mae gennym gynlluniau cyffrous ar y gweill – mae gennych chi a'n cefnogwyr ran hanfodol i'w chwarae yn sicrhau eu bod yn llwyddo, ac ni fu erioed gwell amser i ymuno â ni a bod yn rhan o hynny.

Oriau Gwaith: Swydd lawn amser
Lleoliad: Caerdydd

Dyddiadau allweddol
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 3pm, dydd Llun 24 Tachwedd 2025
Cyfweliadau: Yr wythnos yn dechrau ar 1 Rhagfyr ac 8 Rhagfyr
Syniad o’r dyddiad dechrau: Cyn gynted â phosibl
Cyflog: £30,000 - £37,500 y flwyddyn, yn dibynnu ar brofiad, agored i’w adolygu

Os oes arnoch angen fformat gwahanol neu help â’r broses ymgeisio oherwydd anghenion penodol, cysylltwch â lizzy@nofitstate.org

Mae NoFit State yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac mae’n croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned. Ar hyn o bryd, nid oes gan bobl anabl, B/byddar a/neu niwrowahanol, pobl o gefndiroedd sy’n fwyafrif byd-eang na phobl o dan 30 gynrychiolaeth ddigonol yn ein tîm ac felly rydym yn annog pobl o’r grwpiau hyn, yn neilltuol, i ymgeisio.

Dolen i Ymgeisio

https://www.nofitstate.org/cy/about/gyrfaoedd-chastio

Cyflog

30,000-37,500

Dyddiad cau

November 24, 2025

E-bost

jobs@nofitstate.org