Mynd i'r cynnwys

rheolwr datblygu

Sefydliad

NoFit State Circus

Lleoliad

Caerdydd

Disgrifiad

Mae NoFit State Circus yn chwilio am Reolwr Datblygu brwd, uchelgeisiol a threfnus sydd ag angerdd gwirioneddol dros y celfyddydau a'n gwaith ni.

Rhaid i chi fod yn un ardderchog am adeiladu a meithrin perthnasoedd, yn gallu meddwl yn y tymor hir ac yn strategol, ac addasu i anghenion amrywiol y byd cyfnewidiol o'n cwmpas.

NoFit State yw’r mwyaf o gwmnïau syrcas gyfoes y Deyrnas Unedig. Bob blwyddyn, rydym yn dod i gysylltiad â rhwng 120,000 a 150,000 o bobl o bob oedran a chefndir ledled Cymru, y Deyrnas Unedig a’r byd. Mae gennym gynlluniau cyffrous ar y gweill – mae gennych chi a'n cefnogwyr ran hanfodol i'w chwarae yn sicrhau eu bod yn llwyddo, ac ni fu erioed gwell amser i ymuno â ni a bod yn rhan o hynny.

Oriau Gwaith: Swydd lawn amser
Lleoliad: Caerdydd

Dyddiadau allweddol
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 10am, dydd Mercher 14 Ionawr 2026
Cyfweliadau: Yr wythnos yn dechrau ar 19 Ionawr
Syniad o’r dyddiad dechrau: Cyn gynted â phosibl
Cyflog: £30,000 - £37,500 y flwyddyn, yn dibynnu ar brofiad, agored i’w adolygu

Dolen i Ymgeisio

https://www.nofitstate.org/cy/about/gyrfaoedd-chastio

Cyflog

30,000-37,500

Dyddiad cau

January 14, 2026

E-bost

jobs@nofitstate.org