Rheolwr Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd
Sefydliad
Llenyddiaeth Cymru | Literature Wales
Lleoliad
Llanystumdwy, Cricieth
Disgrifiad
Llawn amser (37 awr yr wythnos), cytundeb cyfnod penodol o 8 mis (absenoldeb mabwysiadu)
I ddechrau cyn gynted â phosib
Cyflog: £35,000 pro rata
Lleoliad: Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy, LL52 0LW
Mae tîm Llenyddiaeth Cymru yn cydweithio ledled Cymru, gyda swyddfeydd yn Llanystumdwy a Chaerdydd. Mae’r gallu i weithio oriau anghymdeithasol, yn cynnwys ambell benwythnos, gwyliau banc ac un noson yr wythnos yn hanfodol oherwydd natur y rôl hon. Bydd cyfle yn achlysurol i weithio o adref ac mae hi’n ddymunol i ddeiliad y swydd fyw yn agos i Dŷ Newydd.
Dyddiad Cau: dydd Iau 29 Ionawr, hanner dydd
Cyfweliadau: wythnos yn dechrau 2 Chwefror
Noder ein bod yn agored i drafod cynigion ar y cyd i rannu’r swydd hon.
Ynglŷn â Rôl Rheolwr Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd
Mae Tŷ Newydd yn ganolfan breswyl sy’n croesawu grwpiau o awduron i gymryd rhan mewn cyrsiau i ddatblygu eu crefft ysgrifennu creadigol. Defnyddir y Ganolfan yn achlysurol ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus, cynadleddau, a gofod gwyliau preifat. Mae hi’n ganolfan fywiog sy’n brysur drwy gydol y flwyddyn.
Rheolwr Canolfan Tŷ Newydd sydd yn gyfrifol am reoli’r Ganolfan o ddydd i ddydd. Ymysg y prif gyfrifoldebau y mae sicrhau fod cyfundrefnau iechyd a diogelwch a rheoli risg ar waith, arwain ar brofiad lletygarwch safonol a chroesawu gwesteion, a rheoli cyllidebau ariannol. Drwy weithio yn agos â thîm y Ganolfan, mae gan y Rheolwr drosolwg o’r gwaith rheoli gwasanaethau arlwyo, glanhau a garddio. Yn ogystal ag ymgymryd â gwaith paratoi trefnus o flaen llaw, mae gofyn hefyd i ddatrys problemau byr rybudd i sicrhau fod cyrsiau a gweithgareddau’r ganolfan yn mynd rhagddynt yn esmwyth. Y Rheolwr sydd yng ngofal cydlynu’r gwaith o gynnal a chadw’r adeilad, gan gynnal perthynas waith agos gyda chrefftwyr lleol i warchod a gwella’r safle.
Mae’r rôl hefyd yn gweithio’n agos gyda thimoedd ar draws y sefydliad yn cynnwys y tîm cyfathrebu i fwydo data ar archebion a chwsmeriaid i hybu gwerthiant cyrsiau, a’r tîm ariannol i gyllidebu, gwneud rhagolygon ariannol, codi anfonebau ac i sicrhau fod holl brosesau ariannol Tŷ Newydd yn cael eu cyflawni.
Bydd y Rheolwr yn croesawu gwesteion o bob cwr i Dŷ Newydd. Mae nifer o’r gwesteion hynny o Gymru, ac mae sgiliau cyfathrebu Cymraeg da yn hynod ddymunol i’r rôl hwn.
Cyfrifoldebau allweddol
Cyfrifoldeb dros weithrediadau Tŷ Newydd fel canolfan breswyl, yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i): cyswllt gyda chwsmeriaid ag artistiaid; gweinyddu archebion yn cynnwys casglu ffioedd a phrosesu anfonebau; ymwneud â chyflenwyr; goruchwylio’r drefn arlwyo, glanhau a threfniadau llety; cytundebu a threfnu anghenion cynnal a chadw.
Rheoli risg iechyd a diogelwch.
Arwain ar elfennau lletygarwch y safle, yn cynnwys croesawu gwesteion ar noson gyntaf eu preswyliad, sy’n cynnwys cyflwyniad o groeso a sôn am brosesau iechyd a diogelwch; cadeirio nosweithiau gyda darllenwyr gwadd; gweithio oriau anghymdeithasol yn ôl yr angen.
Rheoli’r Cydlynwyr Lletygarwch ac Arlwyo i sicrhau gwasanaethau o ansawdd uchel ar y safle, yn cynnwys bod â chyfrifoldeb dros gyflwr yr adeilad a’r gerddi cyn dyfodiad pob grŵp.
Cydlynu’r swyddfa yn cynnwys rheoli adnoddau a gwasanaethau megis y ffôn a cyswllt i’r we; ymateb i ymholiadau amrywiol; cynnal calendr y ganolfan a chynnal systemau archebion.
Cydweithio gyda’r Cyfarwyddwr Gweithredol i reoli cyllidebau, gan gynnwys rhagweld a chymodi.
Cyfrannu at brosesau a dogfennau sefydliadol Llenyddiaeth Cymru yn cynnwys gwaith casglu ac adrodd ar effaith, ac adrodd ar gynnydd yn erbyn targedau.
Sicrhau fod targedau amgylcheddol yn cael eu gwireddu yn Nhŷ Newydd.
Unrhyw dasgau eraill yn ôl y gofyn.
Yn adrodd i’r: Cyfarwyddwr Gweithredol
Addasrwydd ar gyfer y rôl
Rydym yn chwilio am rhywun sydd â:
Phrofiad o reoli canolfan neu westy ac/neu reoli busnes.
Dealltwriaeth o edrych ar ôl adeilad a rheoli gwasanaethau.
Sgiliau gweinyddol cryf.
Ymwybyddiaeth o gyfundrefnau iechyd a diogelwch a rheoli risg.
Ymwybyddiaeth o sut i gynnal safonau gwyrdd ac amgylcheddol garedig o fewn gweithdrefnau’r ganolfan.
Dealltwriaeth o brosesau gwerthiant a’r gallu i weithio fel rhan o dîm i’w tracio a’u cynyddu.
Dealltwriaeth dda o systemau cyfrifiadurol yn cynnwys Excel, system CRM neu system reoli archebion.
Rhywfaint o ddealltwriaeth o gyllidebau, rhagolygon ariannol, adroddiadau cysoni ariannol a chodi anfonebau.
Sgiliau cwsmer a lletygarwch cyfeillgar a hyderus, a’r gallu i ddatrys problemau.
Y gallu a pharodrwydd i weithio oriau anghymdeithasol, yn cynnwys ambell benwythnos, gŵyl y banc ac 1 noson yr wythnos.
Sgiliau cyfathrebu clir, sensitif a chadarnhaol yn ysgrifenedig ac ar lafar.
Agwedd gadarnhaol tuag at yr iaith Gymraeg a dwyieithrwydd.
Sgiliau dymunol:
Profiad o reoli llinell.
Sgiliau cyfathrebu Cymraeg cryf, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
Diddordeb mewn llenyddiaeth a’r celfyddydau.
Profiad o siarad cyhoeddus.
Ymwybyddiaeth o gynnal Adeiladau Rhestredig.
Bydd unrhyw gynigion swydd yn cael eu gwneud yn amodol ar wiriad DBS priodol.
Os oes gennych ddiddordeb yn y rôl hon ond yn ansicr a oes gennych brofiad ddigonol, cysylltwch ag Alys Lewin, Rheolwr Gweithrediadau (alys@llenyddiaethcymru.org / 02920 472266) am sgwrs anffurfiol.
Sut i wneud cais
1. Darllenwch y disgrifiad swydd uchod a'r rhestr addasrwydd yn ofalus. Hefyd, darllenwch Gynllun Strategol Llenyddiaeth Cymru ar gyfer 2022-27 ac edrychwch ar adrannau ein gwefan.
2. Ysgrifennwch lythyr cais* neu greu cais fideo* yn esbonio pam eich bod â diddordeb yn y rôl, a sut yr ydych yn addas ar ei chyfer (e.e., soniwch am eich profiadau, a pha elfennau penodol sy’n eich diddori am y swydd). Bydd ceisiadau ysgrifenedig a cheisiadau fideo yn cael eu hasesu yn gyfartal.
*Uchafswm o 2 dudalen A4, neu fideo 5-munud.
3. Anfonwch y canlynol at post@llenyddiaethcymru.org erbyn dydd Iau 29 Ionawr, hanner dydd:
- Eich llythyr cais neu fideo;
- Eich CV, manylion dau ganolwr sy'n eich adnabod mewn cyd-destun proffesiynol. Byddwn ond yn cysylltu â chanolwyr ar ôl i gynnig o gyflogaeth gael ei dderbyn;
- Ffurflen Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Llenyddiaeth Cymru wedi'i chwblhau: https://www.surveymonkey.com/r/2QJXSMH
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Byddwn yn asesu’r ceisiadau ac yn gwahodd ymgeiswyr llwyddiannus i gyfweliad yn Nhŷ Newydd ar yr wythnos yn dechrau 2 Chwefror. Byddwn yn cadarnhau o flaen llaw pwy fydd ar y panel cyfweld yn cynrychioli tîm Llenyddiaeth Cymru.
Er mai cyfweliad ffurfiol fydd hwn, byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod pob ymgeisydd yn gyfforddus â'r broses gyfweld. Os bydd y broses yn achosi unrhyw bryder i chi, rhowch wybod i ni o flaen llaw a gallwn drefnu cyfarfod anffurfiol neu sgwrs dros y ffôn/fideo cyn y cyfweliad gydag Alys Lewin, Rheolwr Gweithrediadau.
Mae Llenyddiaeth Cymru yn elusen gofrestredig (1146560) sy’n gweithio gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.
Dolen i Ymgeisio
Cyflog
£35,000 pro rata
Dyddiad cau
January 29, 2026