Mynd i'r cynnwys

Chair

Sefydliad

Chapter Arts Centre

Lleoliad

Caerdydd

Disgrifiad

Dyddiad cau: Dydd Mawrth 10 Chwefror
Cyfweliadau: Dydd Mawrth 3 Mawrth

Diben y swydd

Mae’n adeg gyffrous i ymuno â’n sefydliad. Dros y tair blynedd diwethaf, dan arweiniad ein Cyd-Gyfarwyddwyr newydd a chasgliad o ymddiriedolwyr a staff ymroddedig, rydyn ni wedi newid ein safbwynt a’n blaenoriaethau i osod ein cymuned yn ganolog i’r holl waith rydyn ni’n ei wneud. O ganlyniad i hyn, nhw yw ein man cychwyn wrth ddeall diwylliant, rhaglennu, y ganolfan, a phopeth arall. Rydyn ni’n ymroddedig i weithio mewn ffyrdd hirdymor a thrawsnewidiol, i sicrhau ein bod ni’n sefydliad sy’n gweithredu ar sail anghenion heddiw, ac sy’n gwneud lle ar gyfer dyfodol i bawb.

Wrth i Kami Lamakan gymryd cam yn ôl ddiwedd mis Mawrth, rydyn ni’n chwilio am arweinydd profiadol sy’n gallu cymell tîm o ymddiriedolwyr a chynnig arweiniad clir, mentora, a herio’r Cyd-Gyfarwyddwyr a’r tîm gweithredol, gan eirioli’n hyderus dros y gwaith rydyn ni’n ei wneud. Gyda chysylltiadau da, byddwch chi’n gweithio’n galed i godi ein proffil fel canolfan gelfyddydau ryngwladol sydd wrth wraidd ein cymuned, gan gyflwyno Chapter i bobl a sefydliadau a fydd yn ein cefnogi ni i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol cynaliadwy.

Byddwch chi’n angerddol am gelf ac artistiaid a meithrin cydlyniant cymunedol, ac yn credu y dylai gofal a thegwch fod wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud. Bydd angen i chi gydbwyso’r ymrwymiad yma â chraffter ariannol cryf a phrofiad o arweinyddiaeth yn y sector creadigol, elusennol neu gyhoeddus.

Mae hi’n adeg heriol i’r celfyddydau, ac rydyn ni’n chwilio am rywun a all ein galluogi i ehangu ein cyrhaeddiad, ein dylanwad, a’n heffaith.

Dysgwch ragor

Gweler ein pecyn recriwtio isod am yr holl wybodaeth.

Rydyn ni’n cynnal sesiwn anffurfiol ar-lein er mwyn i chi allu dysgu mwy, gofyn cwestiynau, a sgwrsio gyda rhai o’n hymddiriedolwyr presennol. Bydd y rhain yn cael eu cynnal ar Zoom ar ddydd Mawrth 27 Ionawr, 5.30yp. Bydd y cyfarfod yma’n cynnwys dehongliad Iaith Arwyddion Prydain, capsiynau byw a nodiadau, ond os bydd gennych ofynion hygyrchedd ychwanegol, er enghraifft os byddai’n well gennych gwrdd wyneb yn wyneb, cysylltwch â ni. Os hoffech ymuno a’r cyfarfodydd ar-lein, neu drefnu sgwrs wyneb yn wyneb, anfonwch e-bost at Rory.Duckhouse@chapter.org.

Dolen i Ymgeisio

https://www.chapter.org/cy/amdanom/jobs-opportunities

Cyflog

N/A

Dyddiad cau

February 10, 2026

E-bost

marketing@chapter.org