Mynd i'r cynnwys

Aelodau Cyswllt Creadigol

Sefydliad

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

Lleoliad

Caerdydd

Disgrifiad

Cyflwyniad
Rhaglen ddatblygu newydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ar gyfer ymarferwyr creadigol yw Aelodau Cyswllt Creadigol.

Mae ceisiadau ar agor i artistiaid mewn unrhyw gelfyddyd sy’n awyddus i ehangu eu harferion mewn ffyrdd newydd.

Efallai eich bod yn goreograffydd newydd, neu’n artist mewn unrhyw gelfyddyd arall sy’n awyddus i weithio’n greadigol gyda dawns (h.y. ffilm, y celfyddydau gweledol, y celfyddydau digidol, cyfansoddwyr, dylunwyr dillad ayb).

Mae’r rhaglen hon wedi tyfu o’n rhaglenni blaenorol yn cynnig cefnogaeth goreograffi ac yn paru Artistiaid Gweledol gyda dawnswyr. Mae’r cyfle hwn wedi’i wreiddio mewn dawns, ond mae’n ehangu’r cwmpas fel y gallwn gefnogi ystod ehangach o leisiau creadigol sy’n llywio dyfodol dawns.

Beth yw’r manteision?
Rhaglen ddwy flynedd, sy’n cefnogi datblygiad creadigol ac yn cynnig cyfleoedd ystyrlon i gryfhau arferion a magu hyder proffesiynol yw Aelodau Cyswllt Creadigol.
Rydym yn awyddus i feithrin perthnasoedd trawsnewidiol rhwng CDCCymru a phob Aelod Cyswllt, gan greu budd cyffredin, dysgu a rennir ac effaith barhaus. Gall y cyfle hwn helpu i ddechrau gyrfa gynnar neu greu llwybrau newydd a chyffrous ar gyfer arferion parod.

Yr hyn mae’r rhaglen yn ei gynnig
Mentora un-i-un rheolaidd gyda Chyfarwyddwr Artistig CDCCymru, ochr yn ochr â mentor allanol y cytunwyd arno, cefnogi datblygiad artistig, myfyrio beirniadol ac esblygiad.
Mewnwelediad i sut mae Cwmni Cenedlaethol yn gweithio o ddydd i ddydd.
Lleoliad ac amser ymroddedig i archwilio syniadau ac arbrofi â dulliau newydd, gan gynnwys cyfnodau ymchwilio a datblygu yn ein stiwdios gyda’n dawnswyr.
Datblygiad Proffesiynol Parhaus a hyfforddiant, fel Diogelu ac Iechyd a Diogelwch.
Gweithdai wedi’u teilwra sy’n meithrin sgiliau ymarferol a mewnwelediad diwydiant. Gallai hyn gynnwys gweithio’n llawrydd, cynhyrchu, marchnata, arfer ddigidol a chodi arian.
Comisiwn â thâl i greu gwaith newydd fel rhan o raglen 4x10 CDCCymru yn 2028. Os nad yw aelod cyswllt yn wneuthurwr dawns neu goreograffydd, bydd CDCCymru yn ei baru â chydweithredwr addas.

Cymhwystra a disgwyliadau
Mae ceisiadau ar agor i artistiaid ar unrhyw gam o’u gyrfa, sy’n awyddus i ehangu eu harferion mewn ffyrdd newydd gyda dawns wrth ei wraidd.
Gall y cyfle hwn helpu i ddechrau gyrfa gynnar neu greu llwybrau newydd a chyffrous ar gyfer arferion parod.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu'n hŷn.
Ymarferwyr creadigol o Gymru ac wedi’u lleoli yng Nghymru.
Dylai ymgeiswyr ddangos ymrwymiad i weithio gyda’r gelfyddyd o ddawns, hyd yn oed os yw eu prif arfer mewn cyfrwng arall.
Disgwylir i Aelodau Cyswllt Creadigol ymgysylltu’n llawn â, ac ymrwymo i’r rhaglen hyd eithaf eu gallu, sydd oddeutu 55 diwrnod dros gyfnod o ddwy flynedd.
Bydd Aelodau Cyswllt yn rhannu adborth yn rheolaidd i sicrhau ein bod yn gallu parhau i wella’r rhaglen, a sicrhau ei bod yn aros yn berthnasol, ymatebol ac wedi’i llywio gan eu profiadau.
Bydd yr Aelodau Cyswllt Creadigol yn eiriolwyr ar gyfer y rhaglen, gan hyrwyddo ei gwerthoedd a’i hamcanion.
Mae’n rhaid i chi gadw at holl bolisïau a chanllawiau CDCCymru, gan gynnwys y rhai sy’n gysylltiedig â diogelu a thegwch.

Ymrwymiad a Ffioedd
Cyfanswm yr oriau a ddisgwylir yw cyfanswm o oddeutu 55 diwrnod, yn cychwyn fis Mawrth 2026 hyd at ddiwedd mis Ionawr 2028.
Y ffi graidd ar gyfer y ddwy flynedd i bob Aelod Cyswllt Creadigol yw £8,250. Mae hyn yn cynnwys y Comisiwn Creadigol.

Mae teithio rhesymol, lwfans llety a lwfans cynhaliaeth ar gael yn ychwanegol at y ffi.

Dolen i Ymgeisio

https://ndcwales.co.uk/cy/aelodau-cyswllt-creadigol

Cyflog

£8250

Dyddiad cau

December 3, 2026

E-bost

recruitment@ndcwales.co.uk