Mynd i'r cynnwys

Cynorthwyydd Prosiectau a Chyfathrebu

Sefydliad

Tŷ Cerdd

Lleoliad

Caerdydd (ond gall deilydd y swydd weithio o bell unrhyw le yng Nghymru)

Disgrifiad

Rydym yn recriwtio Cynorthwyydd Prosiectau a Chyfathrebu am ddeuddydd yr wythnos i ymuno â’n tîm sy’n fach ond yn ddeinamig.

Contract ac oriau

Contract blwyddyn, 15 awr yr wythnos yn agored i oriau hyblyg (rhaid cynnwys bore dydd Mawrth)

------------------------------

Mae lle Tŷ Cerdd ym mywyd cerddorol Cymru yn unigryw. Rydym yn gweithio gyda chrewyr cerddoriaeth ym mhob cam o’u gyrfa drwy ddatblygu artistiaid, yn gweithio gyda chymunedau sy’n ymwneud â cherddoriaeth ledled y genedl, yn ogystal â gweithio gyda amrywiaeth o sefydliadau, mudiadau a rhwydweithiau cerdd yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.

Bydd y Cynorthwyydd Prosiectau a Chyfathrebu yn gweithio ochr yn ochr â’n Pennaeth Cynnwys Digidol, gan gydlynu â’r tîm cyfan i’n helpu i adrodd ein stori ni a stori’r cerddorion a’r cymunedau rydyn ni’n gweithio gyda nhw. Bydd deiliad y swydd yn helpu i lunio negeseuon a chynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, ynghyd ag e-byst uniongyrchol a chopi i’r we. Bydd cyfle hefyd i weithio ar brosiectau, fel llwybrau datblygu artistiaid a gweithdai yn ein Stiwdio.

Rydym yn sefydliad hybrid, sef bod staff yn gweithio o’r swyddfa ac o bell ill dau, felly byddai’r rôl hon yn addas i rywun sy’n gyfforddus yn gweithio’n annibynnol yn ogystal â gyda thîm.

Dyddiad cau: 12:00 canol dydd, dydd Gwener 27 Chwefror

Dolen i Ymgeisio

https://www.tycerdd.org/cynorthwyydd-prosiectau-a-chyfathrebu

Cyflog

25,878 pro rata

Dyddiad cau

February 27, 2026

E-bost

abby.charles@tycerdd.org