Rheolwr Cyfathrebu Ac Ymgyrchoedd (rhan amser/0.6)
Sefydliad
Common/Wealth
Lleoliad
Remote/Hybrid
Disgrifiad
Bydd y Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgyrchoedd yn llunio ein gohebiaeth ar gyfer y cyhoedd, yn ogystal ag arwain ar eiriolaeth ar gyfer elfennau ymgyrchu ein prosiectau/gweithgareddau.
Mae hyn yn cynnwys cyflwyno ymgyrchoedd cyfathrebu perthnasol sydd â dylanwad lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i sicrhau ymwybyddiaeth gyhoeddus neu wedi’i thargedu amlwg o anghyfiawnderau cymdeithasol penodol y mae ein gwaith creadigol yn taflu goleuni arnynt. Drwy ‘ymgyrchoedd’, rydyn ni’n golygu: amlygu a chryfhau ein neges ni a neges ein cydweithwyr (sy’n ymgyrchwyr neu’n weithredwyr weithiau); lledaenu neges ein gwaith i bob cwr, yn bersonol ac ar-lein, i sicrhau newid go iawn; a chyfrannu at barhad Common/Wealth fel ‘mudiad’.
Byddwch yn (cyd-)reoli ein dau Swyddog Cyfathrebu rhan-amser.
Rydyn ni’n chwilio am rywun sydd â phrofiad ac angerdd dros dynnu sylw at anghyfiawnderau, anghydraddoldeb a gormes a manteisio i’r eithaf ar waith presennol ein partneriaid ymgyrchu.
Mawr yw ein diolch i Sefydliad Paul Hamlyn am ei gefnogaeth i greu’r rôl hon.
I wneud cais
Anfonwch eich CV a’ch llythyr cais (dim mwy na 3 tudalen A4) yn dangos eich profiad blaenorol yng nghyswllt y Disgrifiad o’r Rôl a sut rydych chi’n bodloni Manyleb y Person.
Gallwch hefyd ddarparu hwn fel fideo neu ffeil sain (tua 5 munud o hyd).
Dolen i Ymgeisio
https://commonwealththeatre.co.uk/gwybodaeth-amdanom-ni/swyddi/?lang=cy
Cyflog
37,150 - 38,500 (pro rata)
Dyddiad cau
February 23, 2026