Mynd i'r cynnwys

Cydlynydd Sesiwn: Llanelli

Sefydliad

Forget-me-not Chorus

Lleoliad

Llanelli

Disgrifiad

Mae Forget-me-not Chorus yn chwilio am berson cyfeillgar, trefnus a dymunol i gefnogi’r grwp yn Llanelli fel ‘Cydlynydd Sesiwn’ yn ein sesiynau prynhawn Mercher. Mae ein côr cymunedol yn cynnwys pobl sy'n byw â dementia, eu teuluoedd a'u gofalwyr.

Mae'r rôl yn cynnwys gofal bugeiliol a chynnal sesiynau'r côr, gan gefnogi'r arweinydd cerddorol i sicrhau bod aelodau'r côr a gwirfoddolwyr yn teimlo eu bod yn cael gofal a chefnogaeth.

__

Ni yw Forget-me-not Chorus, elusen sy’n dod â llawenydd canu i bobl sy'n byw â dementia, a'r bobl sy'n eu cefnogi.

Rydym yn trefnu sesiynau canu llawn llawenydd i bobl â phob math o ddementia, yn ogystal â'r teuluoedd, ffrindiau a staff proffesiynol sy'n gofalu amdanynt. Mae miloedd o bobl, o'r rhai yn eu tridegau i'r rhai sydd canmlwydd oed, yn cymryd rhan yn ein sesiynau canu bob wythnos, ledled Cymru a nawr thu hwnt iddi.

Dan arweiniad tîm o gerddorion proffesiynol hyfforddedig iawn, mae ein sesiynau’n ymgysylltu a grymuso pobl sydd â dementia a’r bobl sy’n eu caru ac yn gofalu amdanynt. Mae’r sesyiynau’n gymaint mwy na chanu hen ganeuon, neu ddod ag atgofion yn ôl. Rydym yn comisiynu ac yn perfformio darnau newydd sy’n dathlu ein cantorion ac yn rhannu eu profiadau gyda’r gymuned ehangach. Rydym yn creu atgofion newydd, mwynhau profiadau newydd, a dathlu bywyd yn y foment.

Rydym yn gweithio mewn lleoliadau yn y gymuned, cartrefi gofal, ysbytai ac ar-lein gyda repertoire sy'n rhychwantu tair cenhedlaeth. Nid oes cost i ymuno (ac nid oes angen atgyfeiriad). Ar hyn o bryd mae bron i 2,500 o danysgrifwyr yn mwynhau ein sesiynau cerddoriaeth arloesol sydd wedi'u recordio.

__

Y person rydym yn chwilio amdano

Person lleol i Lanelli sy'n mwynhau gweithio gyda phobl ac sy'n gallu cefnogi ein tîm cerddoriaeth i gynnal sesiynau canu wythnosol ar brynhawn Mercher. Rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu lledaenu'r gair am ein gwaith yn y gymuned ac annog pobl i ymuno â ni.

Forget-me-not Chorus yn Llanelli – ein gwaith hyd yn hyn

Dechreuodd Forget-me-not Chorus weithio gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn Ysbyty’r Tywysog Philip yn 2022.   Rydym yn lansio ein gwasanaeth yn y gymuned yn Llanelli ym mis Mai 2026.

Sut beth yw'r rôl?

Chi fydd y pwynt cyswllt ar gyfer holl aelodau ein côr cymunedol yn Llanelli.

Yn ystod sesiwn arferol, chi fydd y cyntaf i gyrraedd a gosod yr ystafell yn ôl yr angen. Byddwch yn croesawu cyfranogwyr, gan sicrhau eu bod yn teimlo'n gyfforddus yn yr ystafell. Byddwch yn gweini'r lluniaeth yn yr egwyl, gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr, ac yn sgwrsio â'r holl gyfranogwyr i wneud iddynt deimlo'n gartrefol a'u bod yn cael eu cefnogi. Byddwch yn cefnogi'r tîm cerddoriaeth i sicrhau eu bod nhw’n gallu cyflwyno'r sesiwn fel y cynlluniwyd. Ar ddiwedd y sesiwn, byddwch yn clirio, yn cloi ac yn cwblhau ffurflen adborth am y sesiwn - gan nodi unrhyw broblemau a newyddion da.

Yn ystod yr wythnos gellid gofyn i chi anfon e-bost at ein cyfranogwyr gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am  y sesiynau. Efallai byddwch chi hefyd mewn cysylltiad â darpar gyfranogwyr dros y ffôn neu drwy e-bost i sicrhau bod ganddyn nhw'r holl wybodaeth sydd ei hangen. Gall yr amser hwn fod yn ad hoc, ond mae angen i bob ymholiad gael ei ymateb yn brydlon.

Dolen i Ymgeisio

https://www.forgetmenotchorus.com/job-vacancy-session-co-ordinator-llanelli/

Cyflog

Freelance

Dyddiad cau

March 9, 2026

E-bost

sarah@forgetmenotchorus.com