Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu
Sefydliad
Theatr Iolo
Lleoliad
Caerdydd
Disgrifiad
Rhan Amser (30 awr yr wythnos – i gynnwys rhai nosweithiau a phenwythnosau)
£30,625 y flwyddyn pro rata (£24,500 am 30 awr)
Gweledigaeth Theatr Iolo yw cymdeithas lle gall pob plentyn deimlo wedi'i rymuso a'i ysbrydoli. Rydym yn gwneud hyn trwy gyfoethogi bywydau plant trwy brofiadau cofiadwy sy'n herio'r meddwl ac yn tanio’r dychymyg.
Mae Theatr Iolo yn gwmni theatr sydd wedi ennill gwobrau ac sydd wedi bod ar flaen y gad ym maes theatr i blant a phobl ifanc ers bron i ddeugain mlynedd. Mae plant a rhieni, disgyblion ac athrawon, babanod a phobl ifanc yn mwynhau perfformiadau, gweithdai a chynyrchiadau gan y cwmni, wedi'u perfformio mewn pob math o fannau ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.
Rydym yn chwilio am Reolwr Marchnata a Chyfathrebu i fod yn gyfrifol am ddyfeisio a gweithredu'r holl strategaethau ac ymgyrchoedd marchnata, datblygu cynulleidfaoedd ac ymgysylltu ar gyfer pob agwedd ar waith y cwmni, er mwyn cryfhau ac amrywio ein cynulleidfa. Os ydych chi'n rhannu ein hangerdd dros theatr, am feithrin dychymyg a chreu straeon a fydd yn para oes, rydyn ni eisiau clywed gennych chi! Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â'n tîm ac adeiladu ar ein hanes anhygoel, gan lunio'r cwmni ar gyfer y dyfodol.
Os hoffech wneud cais am swydd Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu, cwblhewch y ffurflen monitro cyfle cyfartal ac anfonwch gopi o'ch CV a llythyr cais at michelle@theatriolo.com. Byddwn hefyd yn derbyn cais ar ffurf Iaith Arwyddion Prydain (BSL) neu recordiad fideo byr sy’n llai na 5 munud o hyd. Rydym yn edrych ymlaen at glywed pam mae gennych ddiddordeb yn y swydd hon, a pha sgiliau a phrofiad y byddech chi'n eu cyflwyno i'r cwmni, gan gyfeirio at y disgrifiad swydd a manyleb person.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd ar 20 Mawrth 2026 ac fe gynhelir cyfweliadau cychwynnol ar 23 Ebrill 2026 yng Nghaerdydd. Byddwn yn cadarnhau ein bod wedi derbyn eich cais trwy e-bost.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych.
Dolen i Ymgeisio
Cyflog
£30,625 a year pro rata
Dyddiad cau
March 20, 2026