Mynd i'r cynnwys

Rheolwr Technegol Lleoliad (Theatr Clwyd)

Sefydliad

Theatr Clwyd

Lleoliad

Yr Wyddgrug

Disgrifiad

Mae Theatr Clwyd yn chwilio am Reolwr Technegol Lleoliad profiadol a chydweithredol i arwain y gwaith o redeg ein hadran dechnegol brysur o ddydd i ddydd. Yn dilyn ein hailddatblygiad cyfalaf mawr, mae'r lleoliad bellach yn cynnwys dau ofod theatr llawn amser, stiwdio hyblyg, sinema 100 sedd, a hefyd gofod cynadledda a digwyddiadau.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan allweddol wrth gyflwyno rhaglen amrywiol drwy gydol y flwyddyn o gynyrchiadau mewnol, gwaith yn ymweld, a digwyddiadau ar draws ein cyfleusterau wedi’u heangu. Gan weithio'n agos gyda thimau creadigol, cwmnïau’n ymweld, a chydweithwyr ar draws y sefydliad, byddwch yn cydlynu staff, adnoddau a chyfleusterau technegol i sicrhau bod popeth yn rhedeg yn ddiogel, yn effeithlon, ac i'r safonau proffesiynol uchaf.

Dolen i Ymgeisio

https://www.theatrclwyd.com/cy/jobs/rheolwr-technegol-lleoliad

Cyflog

£32,648

Dyddiad cau

April 17, 2026

E-bost

people@theatrclwyd.com