Rheolwr Blaen Tŷ
Sefydliad
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Venue Cymru, Llandudno
Disgrifiad
Hoffi digwyddiadau byw? Arweiniwch o’r tu blaen.
Mae Venue Cymru yn chwilio am Reolwr Blaen Tŷ profiadol i reoli profiad y gynulleidfa yn un o brif leoliadau adloniant Gogledd Cymru.
Byddwch yn arwain timoedd Blaen Tŷ ar draws rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau byw a theatr, gan sicrhau bod pob ymwelydd yn teimlo’n ddiogel, yn derbyn croeso cynnes ac yn derbyn gofal. Trwy weithio’n agos gyda chydweithwyr uwch, byddwch yn rheoli stiwardiaid a staff digwyddiadau ac yn camu i’r rôl Rheolwr ar Ddyletswydd yn ystod digwyddiadau.
Mae hon yn rôl arweinyddiaeth ymarferol ar gyfer rhywun sy’n ffynnu mewn amgylchedd prysur ac yn ymfalchïo mewn darparu profiadau rhagorol i gwsmeriaid.
Byddwch yn rhan o’r adegau y bydd cynulleidfaoedd yn eu cofio.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Emma Joyce, Pennaeth Cynorthwyol yr Adain
( emma.joyce@venuecymru.co.uk / 01492 879771 )
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Dolen i Ymgeisio
Cyflog
£37,280 - £39,862
Dyddiad cau
April 8, 2026