Cydgysylltydd Gŵyl (Ffoto Cymru)
Sefydliad
Ffotogallery
Lleoliad
Stryd Fanny, Caerdydd, CF42 4EH
Disgrifiad
Mae Ffotogallery yn chwilio am Gydgysylltydd Gŵyl Llawrydd rhan amser ar gyfer Ffoto Cymru 2026, a fydd yn cefnogi’r tîm, yr artistiaid sy’n cymryd rhan, partneriaid a rhanddeiliaid y sefydliad a darpariaeth gŵyl 2026
Teitl y Swydd: Cydgysylltydd Gŵyl
Enw’r Sefydliad: Ffotogallery
Math o swydd: Llawrydd rhan amser
Dyddiad cychwyn: Mehefin 2026
Dyddiad gorffen: Rhagfyr 2026
Cyflog: £8,000 yn gynhwysol, 40 diwrnod arfaethedig dros 7 mis i'w dalu mewn rhandaliadau misol trwy anfoneb.
Gair am Ffotogallery
Ers ei ffurfio yn 1978, mae Ffotogallery wedi bod ar flaen y gad o ran datblygiadau newydd mewn ffotograffiaeth a chyfryngau’r lens yng Nghymru a thu hwnt, gan annog dealltwriaeth y cyhoedd o ffotograffiaeth a’i werth i gymdeithas, ac ymgysylltiad dyfnach â hynny.
Ein Gweledigaeth
Mae gan ffotograffiaeth y pŵer i achosi ac adlewyrchu newid cymdeithasol. Trwy adeiladu rhwydwaith llawr gwlad cynhwysol yng Nghymru sy’n cael dylanwad rhyngwladol, byddwn wrth wraidd cymuned greadigol a chroesawgar sy’n cymryd rhan mewn sgyrsiau cyfoes am rôl ffotograffiaeth mewn siapio byd mwy cynaliadwy a chyfartal.
Ein Cenhadaeth
Cenhadaeth Ffotogallery yw gweithio gyda ffotograffwyr, artistiaid, cynulleidfaoedd a phartneriaid i;
Ysbrydoli ymgysylltiad â ffotograffiaeth yng Nghymru a’r byd ehangach, a dealltwriaeth ohono.
Cefnogi datblygiad gyrfaol ffotograffwyr ac artistiaid amlddisgyblaethol sydd wedi hen sefydlu neu sy’n dechrau dod i’r amlwg.
Cynyddu’r cyfleoedd i’r bobl hynny sydd heb eu cynrychioli’n ddigonol yn y gorffennol neu sy’n wynebu rhwystrau o ran mynediad i’r celfyddydau.
Croesawu pŵer dweud straeon yn weledol i ymdrin â heriau ein cyfnod ni.
Rhoi lles a chyfiawnder cymdeithasol wrth galon popeth a wnawn.
Am Ffoto Cymru 2026 - Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol:
Mae There's more to life yn rhifyn 2026 o Ŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol biennale FFOTO CYMRU a fydd yn digwydd mewn lleoliadau ledled Cymru ym mis Hydref 2026.
Mae thema'r ŵyl 'There's more to life' yn ein gwahodd i gwestiynu'r systemau sy'n aml yn llunio sut rydym yn gweld y byd. Mae'r rhain yn cynnwys safbwyntiau a strwythurau Gorllewinol amlwg sydd wedi'u gwreiddio mewn cyfalafiaeth, galluogrwydd a phatriarchaeth.
Drwy herio'r fframweithiau hyn, rydym am wneud lle i fathau eraill o wybodaeth a phrofiad, gan gynnwys traddodiadau matriarchaidd, safbwyntiau ysbrydol a gwahanol ffyrdd o ddeall y byd.
Bydd Cydgysylltydd yr Ŵyl yn:
Gwneud dyletswyddau gweithredol a fydd yn cynnwys cefnogi’r sefydliad a darparu’r Ŵyl
Creu a chadw cofnodion a thaflenni gweithredoedd manwl ar gyfer pob digwyddiad
Trefnu ac amserlennu lleoedd ar gyfer arddangosfeydd, gweithdai, sgyrsiau a digwyddiadau cysylltiedig yr Ŵyl.
Goruchwylio’r artistiaid, eu cyfarwyddo a’u rheoli ar gyfer yr Ŵyl – sicrhau bod gwaith yn cael ei baratoi a’i gludo i’r lleoliad cywir, ar y dyddiad cywir.
Gweithio fel prif gyswllt ar gyfer cysylltu ag artistiaid, rheoli amserlenni mewn cydweithrediad â’r Cyfarwyddwr a’r tîm ehangach.
Cydgysylltu amserlenni pob arddangosfa, a digwyddiadau cysylltiedig yn ystod y cyfnod cyn yr Ŵyl
Cydgysylltu artistiaid
Cydgysylltu safleoedd
Drafftio contractau artistiaid/trwyddedu
Trefnu rhestr gwahoddiadau ar gyfer pob digwyddiad.
Sicrhau bod gwaith yr artistiaid yn cyrraedd yn ddiogel ac yn brydlon ar adegau priodol ymhob safle
Trefnu lle i artistiaid aros ac ateb eu hanghenion teithio, os oes angen
Trefnu gwirfoddolwyr ar gyfer pob digwyddiad, os oes eu hangen
Creu a dosbarthu amserlenni digwyddiadau ac arddangosfeydd
Gweithio gyda’r staff eraill ar y safle ar brosiectau fel y bo’r angen
Helpu staff Ffotogallery gyda thasgau gweinyddol drwy gydol yr Ŵyl, yn cynnwys casglu data cynulleidfaoedd
Trefnu a chysylltu â noddwyr posibl ar gyfer pob arddangosfa e.e. canfod nawdd lleol ar gyfer digwyddiadau Rhagddangosiadau Arddangosfeydd
Dyletswyddau eraill fel y cânt eu haseinio/fel y bo’r gofyn
Bydd Cydgysylltydd yr Ŵyl yn adrodd i Gyfarwyddwr Ffotogallery, ac yn gweithio gyda thîm Ffotogallery a’r gwirfoddolwyr i sicrhau bod gweithredoedd yr ŵyl yn rhedeg yn esmwyth.
Sgiliau/Cymwysterau:
Mae Ffotogallery yn chwilio am reolwr prosiect/gweithrediadau profiadol. Byddai gwybodaeth am ffotograffiaeth yn fanteisiol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Hanfodol
Sgiliau cynllunio prosiectau a rheoli amser
Profiad gweinyddol/digwyddiadau
Trefnus a brwdfrydig – yn gallu blaenoriaethu gwaith a chynllunio ymlaen
Sgiliau TG, yn cynnwys Office, a phlatfformau gwe fel Google Drive, Dropbox, Squarespace, rheoli cronfeydd data, platfformau cyfryngau cymdeithasol a phecynnau sylfaenol Microsoft Office
Profiad o reoli eraill
Yn edrych ar y manylion, abod â’r gallu i gyflawni nifer o dasgau mewn amgylchedd sy’n symud yn gyflym
Sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn ysgrifenedig a llafar
Y gallu i ddirprwyo tasgau fel y bo’r angen
Profiadol o ran ymdrin ag ymholiadau gan bartneriaid proffesiynol a’r cyhoedd
Trwydded yrru a cerbyd eich hun
Manteisiol
Diddordeb mewn ffotograffiaeth a’r celfyddydau
Y gallu i siarad Cymraeg
Bod yn hyddysg mewn iaith arall heblaw’r Gymraeg a’r Saesneg
Gwybodaeth am y sector creadigol yng Nghymru
Mae’r swydd hon wedi ei lleoli’n bennaf yng Nghaerdydd a De Cymru, gyda’r posibilrwydd o deithio ledled Cymru i baratoi arddangosfeydd ar safleoedd eraill. Mae’r rôl yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg a chymysgedd o weithio gartref/yn y swyddfa.
Sut i wneud cais
I wneud cais, llenwch y ffurflen yma: https://forms.gle/V4C3fLDJRnfbQVK39
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Mawrth 19 Mai, 23:59.
Dim ond ymgeiswyr ar y rhestr fer fydd yn cael eu cysylltu ar gyfer cyfweliadau.
Os hoffech drefnu trafodaeth anffurfiol gyda'r Cyfarwyddwr am y rôl, anfonwch e-bost at info@ffotogallery.org.
Dolen i Ymgeisio
https://forms.gle/V4C3fLDJRnfbQVK39
Cyflog
£8000
Dyddiad cau
May 19, 2026