Rheolwr Cyfrif Digwyddiadau
Sefydliad
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Venue Cymru, Llandudno
Disgrifiad
Ydych chi’n meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i weithio yn y maes Digwyddiadau Busnes hynod o brysur?
Oherwydd y nifer digynsail o gynadleddau a digwyddiadau sydd i’w cynnal yn Venue Cymru rydym yn dymuno penodi Rheolwr Cyfrif Digwyddiadau newydd i weithio ochr yn ochr â’r tîm presennol o bedwar. Rydym yn chwilio am rywun â llygad craff am fanylion sy’n gallu aros yn ddigynnwrf dan bwysau. Bydd y Rheolwr Cyfrif Digwyddiadau yn gyfrifol am bob agwedd ar reoli digwyddiadau, o’r cyswllt cyntaf â’r cleient hyd ddiwedd y digwyddiad. Mae Venue Cymru yn ymfalchïo yn yr adborth gwych yr ydym yn ei dderbyn am ein tîm cyfeillgar a phroffesiynol, a’ch gwaith chi fydd arwain y tîm hwn wrth ddelio â’n cleientiaid rheolaidd.
Mae arnom angen unigolyn llawn cymhelliant sydd â sgiliau cyfathrebu a rheoli pobl rhagorol a gwybodaeth TG dda. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad blaenorol yn y diwydiant Cynadleddau a Digwyddiadau, a byddant yn perfformio ar eu gorau wrth ymdrin ag anghenion nifer o gleientiaid gwahanol ar yr un pryd, gan weithio o fewn terfynau amser tynn bob amser. Mae hon yn swydd llawn amser, 37 awr yr wythnos ar system waith hyblyg a bydd gofyn i chi weithio rai gyda’r nosau, penwythnosau a Gwyliau Banc.
Venue Cymru yw Canolfan Adloniant a Chynadledda brysuraf y rhanbarth sy’n cynnwys awditoriwm 1500 sedd, arena â lle i 2500 sefyll ynghyd â chyfleusterau Cynadledda ac Arddangos o’r radd flaenaf.
Mae’r gallu i gyfathrebu'n Saesneg yn hanfodol, ac mae’r gallu i sgwrsio’n rhwydd yn Gymraeg yn ddymunol.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Sian Lucas, Rheolwr Digwyddiadau Busnes ar 01492 879771 or Sian.e.lucas@venuecymru.co.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon er hynny rydym yn annog ymgeiswyr sy’n rhugl yn y Gymraeg i ymgeisio am y swydd. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Dolen i Ymgeisio
Cyflog
£28,598 - £32,061
Dyddiad cau
May 11, 2026