Swyddog Gweinyddu a Cyllid
Sefydliad
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Venue Cymru, Llandudno
Disgrifiad
Venue Cymru yw canolfan gelfyddydau a digwyddiadau brysuraf y rhanbarth, ac mae’n cynnwys theatr sydd â 1,500 o seddi, arena â lle i 2,500 ac ystod gynhwysfawr o ystafelloedd cynadledda a digwyddiadau o’r safon uchaf. Rydym yn cyflwyno rhaglen gelfyddydau gyffrous ac amrywiol, o gynyrchiadau mawr y West End i’n perfformiadau ein hunain gan ein Pobl Ifanc Greadigol, ac yn gwesteio cynadleddau a digwyddiadau proffil uchel ledled y flwyddyn.
Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus, llawn cymhelliant i ymuno â’n Tîm Cyllid a Gweinyddu. Mae hon yn rôl allweddol i gefnogi’r gwaith o weithredu’r lleoliad yn effeithiol o ddydd i ddydd a chynnal enw da cryf Venue Cymru am ragoriaeth.
Y Rôl
Fel Swyddog Gweinyddu a Chyllid, byddwch yn:
• Darparu cymorth gweinyddol i sawl adran
• Cynorthwyo gyda thasgau ariannol a rhai’n ymwneud â’r gyllideb
• Helpu i sicrhau bod systemau a phrosesau’r swyddfa’n cael eu cynnal yn llyfn
• Cyfrannu at gynnal gweithrediadau busnes effeithlon mewn amgylchedd cyflym
Amdanoch chi
Bydd gennych:
• Brofiad o weithio mewn swyddfa brysur (hanfodol)
• Sgiliau gweinyddol ac ariannol rhagorol
• Sgiliau TG amlwg a hyder i ddefnyddio systemau swyddfa
• Ymagwedd ragweithiol, hyblyg a threfnus at waith
Gwybodaeth Ychwanegol
• Dyma swydd lawn amser, 37 awr yr wythnos
• Mae gennym system amser hyblyg ar waith a gellir gweithio o gartref o bryd i’w gilydd i gefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
• Mae gallu cyfathrebu yn Saesneg yn hanfodol
• Mae gallu sgwrsio’n Gymraeg yn ddymunol er mwyn darparu gwasanaeth dwyieithog
Os ydych yn frwdfrydig, yn gallu rhoi sylw i fanylder ac yn awyddus i gefnogi sefydliad y celfyddydau a digwyddiadau bywiog, byddem yn croesawu eich cais.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Amanda Guy, Pennaeth Adain : Rheoli Safleoedd, 01492 879771 amanda.guy@venuecymru.co.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Dolen i Ymgeisio
Cyflog
£28,598 - £32,061
Dyddiad cau
May 27, 2026