Mynd i'r cynnwys

Swyddog cynnwys a marchnata digidol

Sefydliad

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Lleoliad

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Disgrifiad

Rydyn ni'n chwilio am rywun creadigol, trefnus a hyblyg, sydd â chariad at y Gymraeg, y celfyddydau a diwylliant, ac sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm brwdfrydig, hwyliog ac ymroddedig.

Rôl greadigol a deinamig sy’n ganolog i’r tîm marchnata digidol, gan ddod â’r Eisteddfod yn fyw ar draws pob llwyfan. Byddwch yn gweithio ar bob math o ymgyrchoedd, rheoli’r wefan a sianeli cymdeithasol, a chreu cynnwys deniadol—o gopïau chwim i fideos bywiog—sy’n apelgar i gynulleidfaoedd amrywiol yr Eisteddfod.

Bydd y swydd yn allweddol yn ystod Eisteddfod 2026, yn ogystal â chyfrannu at y gwaith paratoadol ar gyfer Eisteddfodau 2027 a 2028, gan sicrhau bod ein straeon yn cael eu hadrodd yn greadigol a chyson. Yn ganolog i’r rôl mae’r gallu i adrodd straeon Cymraeg cryf, meithrin cymuned ar-lein, ac ysbrydoli ein cefnogwyr a'n cynulleidfaoedd.

Dolen i Ymgeisio

https://eisteddfod.cymru/swyddog-cynnwys-marchnata-digidol

Cyflog

£29,950

Dyddiad cau

June 11, 2026

E-bost

swyddi@eisteddfod.cymru