Mynd i'r cynnwys

Comisiynau Perfformiad Unigol

Sefydliad

Cwmni Theatr Volcano

Lleoliad

Abertawe

Disgrifiad

Mae Volcano yn bwriadu unwaith eto comisiynu pum pherfformiwr i wneud perfformiadau byr unigol (tua 30 munud) yn ein lleoliad yn Stryd Fawr Abertawe dros bythefnos. Dyma bedwaredd flwyddyn y gyfres gomisiwn llawrydd hon, a ddechreuodd yn 2022 fel Solo Duets for the Future. Y syniad y tu ôl i’r prosiect hwn yw annog perfformwyr i ddatblygu dulliau perfformio newydd o flaen cynulleidfaoedd bach brwdfrydig.

Blwyddyn Y Ffenestr yw hon. Mae ffenestri mawr ein galeri yn wynebu'r stryd ar ddwy ochr – mae'r blaen yn edrych allan ar Stryd Fawr brysur Abertawe gyda'i phalmant llydan, a'r ochr ar lôn i gerddwyr. Rhaid i'ch perfformiad ddefnyddio'r ffenestr hon. Efallai y bydd eich perfformiad ar gyfer pobl sy'n mynd heibio, neu efallai y byddai'n well gennych wahodd cynulleidfa i mewn…

Tâl: Ffi artist £1700 + llety a theithio

Darllenwch yr FAQs cyn gwneud cais, os gwelwch yn dda.

Dolen i Ymgeisio

https://volcanotheatre.wales/the-shape-of-things-to-come-2026/?lang=cy

Cyflog

£1700 +

Dyddiad cau

June 20, 2026

E-bost

claud@volcanotheatre.co.uk