Dirprwy Reolwr Profiad
Sefydliad
Theatr Clwyd
Lleoliad
Yr Wyddgrug
Disgrifiad
Rydyn ni’n chwilio am Ddirprwy Reolwr Profiad egnïol, hyderus gyda’i ffocws ar bobl i helpu i arwain ein gweithrediadau blaen tŷ ac i roi croeso eithriadol i bob Gwestai, artist ac Aelod o'r Cwmni yn Theatr Clwyd.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i rywun sy'n ffynnu mewn amgylchedd cyflym ac sydd wrth ei fodd yn creu profiadau cofiadwy i Westeion. O oruchwylio perfformiadau a dangosiadau ffilmiau i gefnogi'r tîm Profiad a sicrhau bod yr adeilad yn rhedeg yn ddiogel ac yn esmwyth, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth galon ein sefydliad.
Os ydych chi'n ymarferol, yn drefnus, yn hawdd siarad â chi ac yn angerddol am letygarwch, gwaith tîm a darparu gwasanaeth eithriadol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Dolen i Ymgeisio
https://www.theatrclwyd.com/cy/jobs/dirprwy-reolwr-profiad
Cyflog
£28,611 (pro rata)
Dyddiad cau
June 21, 2026