Uwch Swyddog Gweinyddol a Cyllid
Sefydliad
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Coed Pella, Bae Colwyn / Hybrid
Disgrifiad
Ydych chi'n mwynhau cefnogi gwasanaeth cyhoeddus cynhysfawr sydd wrth wraidd diwylliant, llyfrgelloedd a gwybodaeth ledled Conwy?
Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Gweinyddol a Chyllid profiadol a threfnus i ymuno â'n tîm. Mae hon yn rôl ganolog yn cefnogi maes gwasanaeth amrywiol, o weithrediadau dyddiol i gyflawni prosiectau a rheolaeth ariannol.
Mae'r rôl hon yn cynnig amrywiaeth a chyfrifoldeb, gan weithio ar draws systemau gweinyddol, prosesau ariannol a chydlynu gwasanaeth, a chyfrannu at redeg gwasanaeth prysur sy’n datblygu’n barhaol yn llyfn ac yn effeithiol.
Y Rôl
Fel Uwch Swyddog Gweinyddu a Chyllid, byddwch yn:
• • Darparu cefnogaeth weinyddol o ansawdd uchel ar draws y gwasanaeth
• • Cefnogi monitro ariannol, cyllidebu a phrosesau cysylltiedig
• • Cynnal a gwella systemau swyddfa a llif gwaith gweinyddol
• • Gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm i gefnogi darparu gwasanaeth
Amdanoch chi
Bydd gennych:
• Brofiad o weithio mewn amgylchedd gweinyddol prysur
• Sgiliau trefnu a gweinyddu ariannol cryf
• Hyder wrth ddefnyddio systemau swyddfa a rheoli data yn gywir
• Ymagwedd ragweithiol, hyblyg a threfnus
Gwybodaeth Ychwanegol
• Dyma swydd lawn amser (37 awr yr wythnos)
• Mae gennym system oriau hyblyg gyda rhywfaint o weithio gartref ar gael.
• Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg ar lefel 4 ar lafar ac ar lefel 3/4 ar gyfer darllen / ysgrifennu yn hanfodol.
• Mae’r gallu i gyfathrebu yn Saesneg yn hanfodol
Os ydych chi'n chwilio am rôl amrywiol lle gallwch chi wneud cyfraniad ymarferol at ddarparu gwasanaethau diwylliant, llyfrgell a gwybodaeth, byddem yn croesawu eich cais.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Helen Hopper, Pennaeth Adain : Diwylliant, Llyfrgelloedd a Gwybodaeth ( helen.hopper@conwy.gov.uk / 01492 576139)
Dolen i Ymgeisio
Cyflog
£28,598 - £32,061 per annum
Dyddiad cau
July 8, 2026