Swyddog Rhaglennu
Sefydliad
Cyngor Bwdeistref Sirol Cymru
Lleoliad
Venue Cymru, Llandudno
Disgrifiad
Ydych chi’n angerddol dros y celfyddydau a pherfformiadau byw? Oes gennych chi sgiliau trefnu rhagorol a diddordeb mewn rhaglennu a rhywfaint o reoli digwyddiadau? Mae Venue Cymru yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a rhagweithiol i ymuno â’n tîm a helpu i gynorthwyo i ddarparu rhaglen gyffrous a hygyrch o ddigwyddiadau i’n cynulleidfaoedd.
Ynglŷn â’r Swydd:
Gan weithio’n agos gyda hyrwyddwyr, artistiaid a thimau mewnol, byddwch chi’n cefnogi gwaith cynllunio, cydlynu a darparu rhaglennu’r celfyddydau a pherfformiadau byw. Mae angen sgiliau cyfathrebu cryf, sylw i fanylion a gallu rheoli nifer o flaenoriaethau mewn amgylchedd prysur ar gyfer y swydd.
Am Beth Rydym ni’n Chwilio:
• Diddordeb mewn rhaglennu’r celfyddydau neu reoli digwyddiadau, os yn bosib mewn amgylchedd theatr neu berfformiadau byw
• Sgiliau TG a chyfathrebu cryf
• Ymwybyddiaeth ariannol a sylw i fanylion
• Gallu meithrin perthnasoedd gyda hyrwyddwyr a budd-ddeiliaid
• Gallu gweithio oriau hyblyg, gan gynnwys gyda’r nosau ac ar benwythnosau a theithio yn ôl yr angen.
Pam ymuno â ni?
Dyma gyfle cyffrous i greu gyrfa ym maes rhaglennu’r celfyddydau wrth gyfrannu at un o brif leoliadau diwylliannol Cymru. Byddwch chi’n gweithio gyda gweithwyr proffesiynol ymroddedig i gynorthwyo i ddenu profiadau artistig amrywiol, o ansawdd uchel, i gynulleidfaoedd ar draws y rhanbarth.
Gwnewch gais rŵan a helpu i ffurfio rhaglen y dyfodol yn Venue Cymru.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Emma Joyce, Pennaeth Adran Cynorthwyol
( Emma.joyce@venuecymru.co.uk / 01492 879771 )
Dolen i Ymgeisio
Cyflog
£25,185 - £25,583
Dyddiad cau
August 11, 2026