Mynd i'r cynnwys

Trefnydd Cymunedol Llawrydd (Dwyrain Caerdydd)

Sefydliad

Common/Wealth

Lleoliad

Caerdydd

Disgrifiad

Mae Common/Wealth yn chwilio am Drefnydd Cymunedol llawrydd deinamig, llawn dychymyg, a brwdfrydig i weithredu fel y bont hanfodol rhwng trigolion lleol a’n huchelgais ar gyfer ein gwaith yn y dyfodol yn Nwyrain Caerdydd.

Mae hon yn rôl ymarferol, egnïol, i rywun sy’n angerddol am gyfuno theatr, celf, cyfiawnder cymdeithasol, a meithrin grym cymunedol.

I Wneud Cais:
I wneud cais, anfonwch lythyr eglurhaol atom (dim mwy na 2 dudalen A4) neu fideo byr (dim mwy na 3 munud) yn amlinellu eich profiad perthnasol, sut rydych chi’n bodloni Manyleb y Person a sut fyddech chi’n mynd ati i gyflawni’r rôl hon.

Dylid anfon ceisiadau i: cardiff@commonwealththeatre.co.uk

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Mercher 16 Medi am 5pm

Bydd cyfweliadau wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal ar 22 a 23 Medi
Y rôl i ddechrau ar 1 Hydref (yn agored i drafodaeth)

Dolen i Ymgeisio

https://commonwealththeatre.co.uk/gwybodaeth-amdanom-ni/swyddi/?lang=cy

Cyflog

£4375

Dyddiad cau

September 16, 2026

E-bost

cardiff@commonwealththeatre.co.uk