Technegydd Lleoliad
Sefydliad
Theatr Clwyd
Lleoliad
Yr Wyddgrug
Disgrifiad
Rydym yn chwilio am Dechnegydd Lleoliad i ymuno â’n tîm aml-sgil ar gyfer cyfle cyffrous ar gontract tymor byr, cyfnod penodol.
Mae ein Technegwyr Lleoliad yn cefnogi cyflwyno amrywiaeth eang o ddigwyddiadau ar draws ein mannau perfformio hyblyg, gan ddiwallu holl anghenion technegol ein cynyrchiadau ein hunain a chwmnïau sy’n ymweld. Wrth weithio dan arweiniad y Rheolwr Technegol, byddwch yn chwarae rhan bwysig wrth ddarparu gwasanaeth technegol o ansawdd uchel i Theatr Clwyd ac i gynyrchiadau sy’n ymweld, gan sicrhau’r safonau uchaf posibl ar gyfer pob digwyddiad — gan gynnwys ein pantomeim roc a rôl sydd wedi ennill clod mawr.
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â chyfuniad o sgiliau ym maes un neu fwy o’r meysydd canlynol:
• Gweithrediadau Llwyfan
• Systemau Codi a Gostwng (Counterweight Flying)
• Goleuo
• Sain
• AV (sain a fideo)
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn ymgeiswyr sydd â sgiliau a phrofiad cryf ym meysydd Sain, Goleuo a/neu AV.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio fel rhan o dîm technegol cefnogol ac amlbwrpas mewn amgylchedd lleoliad prysur ac amrywiol, gan gyfrannu at ystod eang o gynyrchiadau a digwyddiadau.
I gael rhagor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â
Cai Taylor, Rheolwr Technegol Lleoliad (Theatr Clwyd), cai.taylor@theatrclwyd.com
Dolen i Ymgeisio
https://theatrclwyd.staffsavvy.me/apply/position/venue-technician-sol-technegydd-lleoliad-1
Cyflog
£26,761
Dyddiad cau
September 28, 2026