Cynorthwyydd Datblygu
Sefydliad
NoFit State Circus
Lleoliad
Caerdydd
Disgrifiad
Ymunwch â phrif gwmni syrcas gyfoes Prydain a helpu i greu profiadau rhyfeddol sy'n newid bywydau.
Rydyn ni yn NoFit State Circus yn credu yng ngallu pobl gyffredin i wneud pethau allan o'r cyffredin, ac rydyn ni'n chwilio am Gynorthwyydd Datblygu brwdfrydig i hybu ein gwaith codi arian, ein partneriaethau a'n huchelgais i dyfu.
Dyma gyfle cyffrous i rywun brwd a threfnus sy'n angerddol am y celfyddydau ac yn awyddus i adeiladu gyrfa ym maes datblygu a chodi arian. Byddwch yn cydweithio'n agos â'r Rheolwr Datblygu, gan helpu i sicrhau'r cyllid hanfodol, meithrin perthnasoedd ystyrlon â chefnogwyr, noddwyr a rhoddwyr, a chyfrannu at ddigwyddiadau arbennig sy'n cryfhau ein cymuned.
Yn ogystal, byddwch yn chwarae rhan allweddol mewn gwaith ymchwilio, adrodd, cyfathrebu a rheoli data, gan helpu i ddangos effaith ein gwaith ledled Cymru a'r tu hwnt. Os ydych chi'n mwynhau cydweithio, yn ffynnu mewn amgylchedd creadigol ac eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn trwy'r celfyddydau, byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9am, dydd Iau 22 Hydref 2026
Cyfweliadau: Wythnosau’n dechrau ar 26 Hydref ac 2 Tachwedd Syniad o’r dyddiad dechrau: Cyn gynted â phosibl
Cyflog cychwynnol: £28,000-£30,000 y flwyddyn, yn dibynnu ar brofiad
Mae NoFit State yn ymdrechu i fod yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac mae’n croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned.
Mae hygyrchedd yn rhan ganolog o'n hethos ac yn cael ei adlewyrchu yn ein trefniadau recriwtio.
Os teimlwch y gallech wneud y swydd hon ond nad ydych yn ticio pob bocs ym manyleb y person, neu os credwch y byddai arnoch angen hyfforddiant neu gefnogaeth ychwanegol er mwyn llwyddo'n llawn, byddem yn dal wrth ein bodd yn clywed wrthych.
Rhowch wybod i ni os bydd angen i ni wneud rhyw addasiadau yn ystod y broses ymgeisio neu recrwitio a byddwn yn barod iawn i’ch cefnogi.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn gymwys i weithio yn y Deyrnas Unedig.
Dolen i Ymgeisio
https://www.nofitstate.org/cy/amdanom/gyrfaoedd-a-chastio/
Cyflog
28,000-30,000
Dyddiad cau
October 22, 2026