Cydgysylltydd Cymunedol
Sefydliad
NoFit State Circus
Lleoliad
Caerdydd
Disgrifiad
Ymunwch â phrif gwmni syrcas gyfoes Prydain a helpu i greu profiadau rhyfeddol sy'n newid bywydau.
Oes gennych chi sgiliau trefnu gwych a sgiliau TG rhagorol? Ydych chi’n ardderchog am weithio o’ch pen a’ch pastwn eich hunan a chanfod atebion? Ydych chi’n dda am gyfathrebu? Ydych chi’n mwynhau cydweithio â phobl ac a ydych wir yn ymddiddori yn yr hyn rydym yn ei wneud ac yn frwd drosto?
Mae NoFit State mewn cyfnod cyffrous yn natblygiad y cwmni ac mae ein Rhaglen Gymunedol yn ehangu ei gwaith, gan ddatblygu a darparu prosiectau syrcas creadigol a chyfranogol gyda’n cymunedau lleol ac ynddynt.
Mae Cydgysylltydd Cymunedol yn swydd allweddol a bydd yn cynnig cymorth gweinyddol effeithlon i dîm y Rhaglen Gymunedol ac i’w gweithgareddau.
Ymunwch â ni!
Oriau Gwaith: Rhan amser, 20 awr yr wythnos
Cyflog: £13,988
Lleoliad: Caerdydd
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12pm, dydd Llun 9 Tachwedd 2026
Darllenwch y Disgrifiad o'r Swydd sy'n atodedig i ganfod manylion pellach am y rôl. Gofynnir i chi lenwi’r ffurflen gais a’r ffurflen fonitro cyfle cyfartal. Anfonwch eich ceisiadau at jobs@nofitstate.org
Os teimlwch y gallech wneud y swydd hon ond nad ydych yn ticio pob bocs ym manyleb y person, neu os credwch y byddai arnoch angen tipyn o hyfforddiant neu gefnogaeth ychwanegol er mwyn llwyddo’n llwyr, byddem yn dal wrth ein bodd yn clywed wrthych.
Cyflogwr Cyfleoedd Cyfartal
Mae NoFit State yn ymdrechu i fod yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac mae’n croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned.
Os oes arnoch angen fformat gwahanol neu help â’r broses ymgeisio oherwydd anghenion penodol, cysylltwch â lizzy@nofitstate.org
Dolen i Ymgeisio
https://www.nofitstate.org/gyrfaoedd
Cyflog
£13,988
Dyddiad cau
November 9, 2026