Mynd i'r cynnwys

Aelodau o’r Bwrdd

Sefydliad

Theatr Torch

Lleoliad

Aberdaugleddau

Disgrifiad

Mae hwn yn gyfnod pwysig a chyffrous i’r Torch wrth i ni agosáu at ein hanner canmlwyddiant ac yn edrych at adeiladu ar ein llwyddiannau presennol a’r gorffennol, ochr yn ochr â datblygu Bwrdd Rheoli’r Torch (y Bwrdd). Y nod yw canolbwyntio ar ddyfnhau ein heffaith, cryfhau ein cynaliadwyedd hirdymor (yn enwedig o ran cyllid, codi arian a goruchwylio prosiectau cyfalaf), a pharhau i ddangos y rôl hanfodol sydd gan theatr fyw yn gymdeithas heddiw.

Wrth wraidd popeth a wnawn mae'r gred na ddylai mynediad at theatr o ansawdd uchel byth ddibynnu ar gefndir, amgylchiadau na lleoliad daearyddol.

Ar hyn o bryd, rydym yn ceisio penodi nifer o Aelodau Bwrdd newydd sydd ag arbenigedd mewn cyllid, codi arian a/neu brosiectau cyfalaf, sy’n rhannu’r gred honno, ac a fydd yn ein helpu i arwain y Torch gyda chynhesrwydd, uniondeb, eglurder ac uchelgais.

Rydym yn chwilio am unigolion sy'n dod ag arweinyddiaeth feddylgar a chynhwysol, barn strategol gadarn, ac ymrwymiad diffuant i gydweithio a bod yn agored.

Mae aelodau'r Bwrdd yn helpu i sicrhau llywodraethu cadarn a diben clir, tra hefyd yn gweithredu fel llysgenhadon i'r Torch ac yn ein helpu i feithrin perthnasoedd a chael cymortjh ar draws y sector a thu hwnt. Rôl wirfoddol yw hon, a telir costau rhesymol mewn amgylchiadau priodol.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac yn annog ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned yn frwd, yn enwedig y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar draws y celfyddydau.

Dolen i Ymgeisio

www.torchtheatre.co.uk/cy/amdanom-ni/swyddi-gwag/

Cyflog

Voluntary

Dyddiad cau

November 9, 2026

E-bost

guy@torchtheatre.co.uk