Mynd i'r cynnwys

Gweinyddydd

Sefydliad

Theatr na nÓg

Lleoliad

Castell-nedd

Disgrifiad

Mae Theatr na nÓg yn ceisio penodi Gweinyddydd i gefnogi gweithrediadau busnes y cwmni a'i waith arobryn i ysgolion.
Mae rôl y Gweinyddydd yn swydd allweddol o fewn tîm Theatr na nÓg bydd yn sicrhau rhediad esmwyth gweithrediadau busnes y cwmni a gwneinyddiaeth ei raglen addysg arobryn.

Dyma gyfle i weithio gyda chwmni theatr bach ond uchelgeisiol, sy'n creu cynyrchiadau o safon uchel ar gyfer ysgolion a chynulleidfaoedd cyffredinol.

Byddwn yn ystyried y rôl hon fel swydd llawn-amser neu ran-amser, rhwng 25 a 37.5 awr yr wythnos.
Cyflog: £27,500 y flwyddyn, pro-rata am oriau rhan-amser.

Oherwydd natur y rôl hon, mae'r gallu i siarad, ysgrifennu a darllen Cymraeg i safon uchel yn hanfodol.

Dolen i Ymgeisio

https://theatr-nanog.co.uk/cy/swydd-gwag-gweinyddydd

Cyflog

£27,500

Dyddiad cau

November 23, 2026

E-bost

drama@theatr-nanog.co.uk