Mynd i'r cynnwys

Cogydd Tŷ Newydd

Sefydliad

Llenyddiaeth Cymru

Lleoliad

Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Gwynedd

Disgrifiad

Llanystumdwy, Gwynedd | Llawn Amser | Cytundeb parhaol | £30,000 pro rata (mwy o wybodaeth yn y pencyn isod)*
Dyddiad cau: 18 Tachwedd 2026, hanner dydd
Cyfweliadau: yr wythnos yn dechrau 23 Tachwedd 2026

Rydym yn chwilio am Gogydd Tŷ i ddarparu prydau blasus, wedi’u paratoi fel y gall gwesteion weini eu hunain, ynghyd â rhoi croeso cynnes i’r awduron a’r gwesteion sy’n aros yng Nghanolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru.

Byddwch yn paratoi prydau blasus ar gyfer hyd at 16 o westeion ar y tro, gan ddarparu ar gyfer anghenion dietegol amrywiol, yn rheoli gweithrediadau’r gegin, ac yn chwarae rhan allweddol wrth greu awyrgylch cynnes a chroesawgar yn Nhŷ Newydd.

Os ydych chi’n berson trefnus, cymdeithasol ac yn mwynhau dod â phobl ynghyd trwy fwyd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

*Mae cyflog o £30,000 y flwyddyn (sy'n cynnwys lwfans gwyliau blynyddol hael, ynghyd â chyfraniad pensiwn cwmni) yn seiliedig ar wythnos gyfartalog o 37 awr trwy gydol y flwyddyn. Mae hyn yn cyfateb i £15.59 yr awr.

Cynhelir cyrsiau am tua 175 diwrnod y flwyddyn, gyda diwrnodau gwaith yn rhedeg yn fras rhwng 11.30 am a 7 .30 pm i sicrhau bod cinio a swper yn cael eu gweini. Yn ystod cyfnod prysur yr haf, ni fydd disgwyl i Gogydd y Tŷ weithio mwy na 7 diwrnod yn olynol, a darperir trefniadau i sicrhau
bod y swydd yn cael ei gyflenwi tra byddwch chi ar wyliau . Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r amserlen sydd ar y gweill , a sut y gallai hynny weithio orau i chi.

Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer rhannu swydd, gallwch wneud cais fel partneriaeth sydd eisoes wedi sefydlu gyda chyd - ymgeisydd, neu cysylltwch â ni i drafod y posibilrwydd o gael eich paru â phartner yn ystod y broses.

Bydd unrhyw gynigion yn amodol ar wiriad DBS priodol, a drefnir gennym ni, a bydd Llenyddiaeth Cymru yn darparu'r holl hyfforddiant priodol arall.

Os oes gennych ddiddordeb yn y rôl hon ond yn ansicr a oes gennych brofiad digonol, cysylltwch â ni ar post@llenyddiaethcymru.org / 01766 522 811) am sgwrs anffurfiol.

Dolen i Ymgeisio

https://www.llenyddiaethcymru.org/amdanom-ni-llc/gyrfaoeddachyfleoedd/swyddi-gwag-a-chyfleoedd-presennol/

Cyflog

£30,000 pro rata

Dyddiad cau

November 18, 2026

E-bost

post@llenyddiaethcymru.org