Technegydd Lleoliad (Goleuo)
Sefydliad
Theatr Clwyd
Lleoliad
Mold
Disgrifiad
Gweithio fel rhan o’r tîm technegol ac, o dan oruchwyliaeth Rheolwr Technegol y Lleoliad, darparu gwasanaeth i holl gynyrchiadau Theatr Clwyd a chynyrchiadau sy’n ymweld sydd o’r safon uchaf bosibl.
Mae gan Theatr Clwyd dîm aml-sgiliau o Dechnegwyr Lleoliad sy'n gofalu am yr holl waith sy'n digwydd yn ein lleoliadau. Maent yn cynorthwyo gyda'n rhaglen ni o gynyrchiadau, a’r rhaglen o gwmnïau sy’n ymweld. Ar gyfer y rôl hon, rydym yn chwilio’n benodol am rywun sydd â phrofiad o rigio, addasu, rhaglennu a gweithredu goleuadau theatrig. Hefyd, yn ddelfrydol, gwybodaeth am theori ac ymarfer trydanol yn ymwneud â goleuo theatr, cyfarpar rheoli a systemau cyfathrebu.
Dolen i Ymgeisio
https://www.theatrclwyd.com/cy/jobs/technegydd-lleoliad-goleuo
Cyflog
£24,448
Dyddiad cau
July 26, 2024