Ymgysylltiad Cymunedol Ystyrlon
Gweithio gyda’r celfyddydau yw’r ffordd ddelfrydol i fusnes ddangos ei fod yn gwmni a chyflogwr gwirioneddol gyfrifol. Mae ein haelodau celfyddydol yn gwneud gwaith gwerthfawr yn y maes hwn ac maent mewn sefyllfa ddelfrydol i helpu cwmnïau i ymgysylltu â’r cymunedau y maent yn gweithredu ynddynt mewn ffyrdd ystyrlon a phellgyrhaeddol.
Mae ein gwasanaethau sy’n helpu busnesau i gyflawni’r amcan hwn yn cynnwys:
Llun: Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen
Broceriaeth
Mae broceriaeth yn cynnwys gwaith C&B Cymru i ddod â phartneriaeth at ei gilydd, gan sicrhau bod y cydweddiad yn gywir a bod anghenion yn cyd-fynd yn berffaith.
Rhaglen Fuddsoddi CultureStep
Mae CultureStep yn buddsoddi mewn partneriaethau arloesol rhwng busnes a’r celfyddydau, gan wella prosiectau a chynyddu eu heffeithiolrwydd hirdymor.
Rhaglenni Datblygiad Proffesiynol
Offeryn datblygu rheolaeth arloesol, sy'n darparu cyfleoedd unigryw i'ch staff fagu hyder a gwella sgiliau a gwneud cyfraniad effeithiol i'r gymuned.