Celfyddydau yn y Senedd
Mae Celfyddydau yn y Senedd yn bartneriaeth hynod werthfawr rhwng C&B Cymru a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, Dawn Bowden, AS, sy’n dod â pherfformiadau byw o ansawdd uchel i ardaloedd cyhoeddus y Senedd.
Llun: Kitsch & Sync yn Celfyddydau yn y Senedd
Dychwelodd y fenter boblogaidd ar 22 Mehefin, diolch i gefnogaeth Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro.
Mynychodd dros 100 o westeion y digwyddiad, a oedd yn cynnwys dau berfformiad arbennig.
Rhoddwyd y gyntaf gan y gantores a rapiwr Nesdi Jones a aned yng Ngogledd Cymru, a pherfformiwyd “stwnsh” o ganeuon pop poblogaidd Bhangra, Bollywood, Cymraeg a phrif ffrwd.
Cafwyd yr ail berfformiad gan y Grumpy Unicorns, fel rhan o Ŵyl Undod Hijinx a oedd yn cael ei chynnal ym mis Mehefin yng Nghaerdydd, Bangor a Llanelli. Fel un o wyliau celfyddydol cynhwysol mwyaf Ewrop a’r unig un o’i bath yng Nghymru, mae’n rhoi cyfle anhygoel i artistiaid anabl, ag anabledd dysgu ac awtistig berfformio ar lwyfan proffil uchel.