
Digwyddiadau
Mae rhaglen ddigwyddiadau gynhwysfawr C&B Cymru yn hyrwyddo pŵer partneriaeth o safon, yn darparu cyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr ac yn arddangos safon uchel y celfyddydau ledled Cymru.
Mae’r rhaglen flynyddol yn cynnwys:
Celfyddydau yn y Senedd
Digwyddiadau Aelodau Busnes
Gwobrau C&B Cymru
Llun: Gold Dust yng Ngwobrau C&B Cymru
Gweler isod am restr o ddigwyddiadau sydd i ddod
Mae’r rhaglen flynyddol yn cynnwys:
Celfyddydau yn y Senedd
Partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru sy’n dod â pherfformiad byw i mewn i adeilad y Senedd. Mae’n rhoi cyfle i ddod â phawb sy’n elwa o waith C&B Cymru at ei gilydd.
Digwyddiadau Aelodau Busnes
Gwahoddir aelodau i fynychu digwyddiadau rheolaidd ledled Cymru sy’n arddangos gwaith y celfyddydau ac yn darparu cyfleoedd rhwydweithio ysbrydoledig ac unigryw.
Gwobrau C&B Cymru
Mae’r cinio a’r seremoni tei ddu flynyddol flaenllaw hon yn bodoli i annog, cydnabod a dathlu’r goreuon mewn partneriaethau rhwng y sector preifat a’r celfyddydau.