Mynd i'r cynnwys
Naw o bobl ifanc o TAN Dance yn perfformio yn nigwyddiad Celfyddydau yn y Stiwdios C&B Cymru ym Mae Abertawe

Diogelu at y Dyfodol 2024-25

Cefnogi Cenhedlaeth Newydd o Weithwyr Celfyddydau Proffesiynol

Prentisiaethau Creadigol a Rhaglenni Interniaethau Creadigol

Ariennir gan Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru

Mae C&B Cymru yn falch iawn o gyhoeddi bod cyfranogwyr Future Proof 2024-25 wedi’u dewis. Mae’r fenter arloesol hon yn rhoi cyfle strwythuredig i genhedlaeth newydd gynhwysol o weithwyr proffesiynol y celfyddydau i ddechrau gyrfa lwyddiannus yn y sector creadigol. Drwy weithio i ddileu rhwystrau, nod C&B Cymru yw helpu i sefydlu gweithlu celfyddydol gwirioneddol amrywiol.

Wedi’i ariannu gan Gronfa Loteri’r Cyngor Celfyddydau Cymru mae Diogelu at y Dyfodol yn cyfuno dwy fenter bellgyrhaeddol y Rhaglen Interniaethau Creadigol a’r Rhaglen Prentisiaethau Creadigol.

Mae’r Rhaglen Interniaethau Creadigol yn galluogi graddedigion diweddar i weithio fel codwyr arian dan hyfforddiant mewn sefydliadau celfyddydol ar leoliadau 10 mis â thâl. O ystyried heriau ariannol parhaus yr hinsawdd bresennol, mae’n bwysicach nag erioed bod gan y sector y gallu i ddenu incwm o amrywiaeth o ffynonellau. Ers ei sefydlu yn 2013, mae’r rhaglen wedi galluogi 42 o godwyr arian proffesiynol i ymuno â gweithlu’r celfyddydau. Rhyngddynt, maent hyd yma wedi codi dros £7.3 miliwn ar gyfer y sector yng Nghymru.

Wedi’i lansio yn 2022, nod y Rhaglen Prentisiaethau Creadigol yw sicrhau newid sylweddol yn ystod ac ansawdd y cyfleoedd i gael mynediad at yrfa yn y celfyddydau. Mae’n darparu cyfleoedd i’r rhai sy’n wynebu rhwystrau sylweddol o ganlyniad i hil, anabledd neu amgylchiadau economaidd-gymdeithasol, gan eu gosod mewn sefydliadau celfyddydol am 10 mis fel hyfforddeion cyflogedig mewn ystod o ddisgyblaethau creadigol.

Mae rhagor o fanylion am Interniaethau a Phrentisiaethau 2024-25 isod.

*Colegau a phrifysgolion partner: Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg Dewi Sant, Coleg Gwent, Coleg Menai, Coleg Penybont, Coleg Sir Gâr, Grŵp Colegau NPTC, Prifysgol Bangor, Prifysgol De Cymru.

 

Mae Diogelu at y Dyfodol yn bosibl diolch i gefnogaeth hanfodol:

 

Llun: Dawns TAN yn Celf yn y Stiwdios

Pleser o’r mwyaf i ni yw dechrau ar y cynllun Diogelu at y Dyfodol 2023/24. Mae effaith y Rhaglen Interniaethau Creadigol i’w gweld yn glir ar y celfyddydau yng Nghymru, a chawn ein hysbrydoli wrth weld y rhai fu’n rhan o’r cynllun dros y 10 mlynedd ddiwethaf yn ffynnu yn eu gyrfaoedd fel codwyr arian. Drwy gyfrwng y Rhaglen Prentisiaethau Creadigol, a sefydlwyd yn ddiweddar, gobeithiwn gynnig dyfodol amgen a chyffrous i unigolion o bob cefndir. Braint o’r mwyaf yw gweld pobl ifanc mor dalentog yn cymryd eu camau cyntaf yn eu gyrfaoedd creadigol, wrth i ninnau chwarae ein rhan i greu sector y celfyddydau sy’n gryf ac yn iach. Rachel Jones, Prif Weithredwr C&B Cymru

Cysylltwch â ni i gymryd rhan!