Amrywiaeth
Mae gwella amrywiaeth a chynrychiolaeth y celfyddydau yng Nghymru yn flaenoriaeth sector a gydnabyddir yn eang. Mae C&B Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i wneud cyfraniad diriaethol yn y maes hwn ac mae’r gwasanaethau a gynigir yn cynnwys:
- Rhaglen Prentisiaethau Creadigol
- Amrywiaeth mewn Llywodraethu
- Gweithwyr Proffesiynol Ifanc ar Fyrddau
- Cyrsiau Hyfforddi
Llun: Rubicon
Rhaglen Prentisiaethau Creadigol
Wedi’i chynllunio ar gyfer y rhai sy’n wynebu rhwystrau sylweddol, nod y Rhaglen Prentisiaethau Creadigol yw rhoi cyfleoedd o ansawdd uchel i bobl ifanc, 18+ oed, i gael mynediad at yrfa yn y celfyddydau.
Amrywiaeth mewn Llywodraethu
Mae Amrywiaeth mewn Llywodraethu yn ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Amrywiol, yn ogystal â’r rhai sy’n Anabl, B/byddar a/neu Niwroamrywiol ac yn eu gosod ar Fyrddau Celfyddydau er mwyn dylanwadu ar benderfyniadau sefydliadol.
Gweithwyr Proffesiynol Ifanc ar Fyrddau
Mae Gweithwyr Proffesiynol Ifanc ar Fyrddau yn gosod arweinwyr busnes y dyfodol, rhwng 21 a 35 oed, ar Fyrddau sefydliadau celfyddydol er mwyn dylanwadu ar benderfyniadau sefydliadol.
Cyrsiau Hyfforddi
Mae C&B Cymru yn defnyddio ei arbenigedd a'i rwydwaith i ddarparu cyrsiau hyfforddi o ansawdd uchel sy'n helpu rheolwyr celfyddydol i ddatblygu sgiliau hanfodol. Mae'r pynciau'n cynnwys Cyllid, Strategaeth, Marchnata ac AD.
Cyrsiau Pwrpasol
Cynigir Cyrsiau Pwrpasol hefyd i sefydliadau unigol mewn ystod o sgiliau busnes.