Datblygu Incwm
Mae C&B Cymru yn gatalydd hanfodol ar gyfer buddsoddiad sector preifat yn y celfyddydau. Bob blwyddyn, mae’r elusen yn denu dros £1.5 miliwn yn uniongyrchol i’r sector.
Gyda’i rwydwaith sefydledig o bartneriaid sy’n datblygu’n barhaus, mae’r tîm mewn sefyllfa gref i annog buddsoddiad newydd a dyfnhau’r buddsoddiad presennol yn y celfyddydau ledled Cymru.
Rydym yn helpu’r celfyddydau i amrywio eu ffrydiau incwm drwy’r gwasanaethau allweddol canlynol:
- Cyngor ac Ymgynghoriaeth
- Broceriaeth
- Rhaglen Fuddsoddi CultureStep
- Digwyddiadau a Rhwydweithio
Llun: Upside Down Circus yng Ngwobrau C&B Cymru
Cyngor ac Ymgynghoriaeth
Cyngor wedi'i deilwra ar bob agwedd ar godi arian yn y sector preifat, gan gynnwys ymgynghoriaeth ar gynigion nawdd.
Broceriaeth
Gwahoddiadau i gyflwyno cynigion i gyflawni prosiectau ar gyfer aelodau busnes C&B Cymru.
Cliciwch yma i gael gwybod am y partneriaethau creadigol rydyn ni wedi’u creu.
Rhaglen Fuddsoddi CultureStep
Mae C&B Cymru yn buddsoddi arian mewn partneriaethau arloesol o bob math rhwng busnes a’r celfyddydau, gan wella prosiectau a chynyddu eu heffeithiolrwydd hirdymor.
Digwyddiadau a Rhwydweithio
Cynhelir amrywiaeth eang o ddigwyddiadau bob blwyddyn, sy’n hyrwyddo budd ac effaith partneriaeth o safon, tra’n arddangos safon uchel y celfyddydau ledled Cymru.