Mynd i'r cynnwys

Gwobrau C&B Cymru 2024

Noddir gan Valero

Cynhelir 29ain Seremoni a Chinio Gwobrau Celfyddydau & Busnes Cymru yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru ddydd Iau 4 Gorffennaf 2024.

Mae’r Gwobrau’n bodoli i annog, cydnabod a dathlu partneriaethau rhagorol rhwng y sector preifat a’r celfyddydau ledled Cymru.

Mae’r cyfnod blaenoriaeth i archebu seddi a hysbysebu ar agor i Aelodau C&B Cymru ac enwebeion. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu’r seremoni, e-bostiwch contactus@aandbcymru.org.uk am wybodaeth.

Mae Gwobrau C&B Cymru yn bosibl gan amrywiaeth o bartneriaid allweddol C&B Cymru. Fel Prif Noddwr y Gwobrau am y 13eg flwyddyn yn olynol, mae cwmni ynni byd-eang Valero yn arwain rhestr drawiadol o gefnogwyr.

Partneriaid categori 2024 yw Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, Grant Stephens Family Law, Hodge Foundation, Sony UK Technology Centre, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Wales & West Utilities, The Waterloo Foundation a Wind2.

Mae C&B Cymru hefyd yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid digwyddiad i sicrhau llwyddiant y noson. Y rhain yw Noddwr Adloniant, Prifysgol De Cymru, Partner Cyfryngau Orchard, Partner Lleoliad, Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, Partner Dylunio Ubiquity, Partner Gwesty Park Plaza Caerdydd a Phartneriaid Diodydd Distyllfa Penderyn a Thŷ Nant.

Gwobr Ymgynghorydd y Flwyddyn, noddir gan Grant Stephens Family Law

Siobhan Saunders, Barclays Partner Finance a Newbridge Memo

Gemma Barnett, Blake Morgan a Rubicon Dance

Lorraine Hopkins, Bowen Hopkins ac Articulture

Kate Fisher, Hospital Innovations a Theatr na nÓg 

Celfyddydau, Busnes a’r Gymuned , noddir gan Wales & West Utilities

Awdurdod Harbwr Caerdydd a Lighthouse Theatre a Theatr na nÓg

Cymoedd i’r Arfordir ac Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen

Sony UK Technology Centre ac It’s My Shout Productions

Valero Pembroke Refinery a Vision Arts

Celfyddydau, Busnes ac Amrywiaeth, noddir gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro 

Bad Wolf a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Coastal Housing Group ac MLArt

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a The Successors of the Mandingue

Celfyddydau, Busnes a Gweithwyr, noddir gan Wind2

Cartrefi Conwy a Role Plays for Training

Port of Milford Haven a Celfyddydau SPAN

HCR Law a Hijinx

Celfyddydau, Busnes a’r Amgylchedd, noddir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a The Waterloo Foundation  

Plantlife a Chanolfan Ucheldre a Live Music Now

Trafnidiaeth Casnewydd a Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan-yr-Afon

Wind2 ac Arts Connection – Cyswllt Celf

Celfyddydau, Busnes ac Iechyd

Adferiad Recovery a Grand Ambition

Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Forget-Me-Not Chorus a Motion Control Dance & Rubicon Dance

Parc Pendine a Chanolfan Gerdd William Mathias

Daw Beirniaid 2024 o ystod o sectorau ac mae ganddynt arbenigedd mewn ffurfiau celf ymarferol, nawdd a nodau’r sector preifat.

Yr unigolion fydd yn beirniadu’r categorïau partneriaethau busnes yw Donna Ali, Cyfarwyddwr BE.Xcellence; Partner Rheoli Eversheds Sutherland, Tom Bray; Cynhyrchydd Celfyddydol Llawrydd Jason Camilleri; Karen Hodge, Ymddiriedolwr o Hodge Foundation; Stephen Thornton, Rheolwr Materion Cyhoeddus Valero.
Bydd Ymgynghorydd y Flwyddyn yn cael ei feirniadu gan dri chefnogwr allweddol o Raglenni Datblygiad Proffesiynol C&B Cymru. Nhw yw Jonathan Chitty Cyfarwyddwr Cyllid yn Port of Milford Haven, Rheolwr Gyfarwyddwr Grant Stephens Family Law, Grant Stephens a Clare Williams, Ymgynghorydd Celfyddydol Llawrydd ac Artist Gweledol.

Bydd enillwyr Gwobrau 2024 unwaith eto yn derbyn tlysau a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer y seremoni. Cânt eu dylunio a’u gwneud gan yr artist Rhiannon Gwyn o Fethesda, y mae ei gwaith yn crynhoi harddwch garw tirwedd ei chartref trwy ddefnyddio nodweddion ffisegol llechi Cymreig a deunyddiau lleol eraill. Bydd y tlysau ceramig y mae hi wedi’u dylunio ar gyfer C&B Cymru yn cael eu paentio â gwydredd wedi’i wneud o flodyn eithin wedi’i gasglu a’i losgi ar fynyddoedd y Carneddau am resymau cadwraeth ac felly bydd pob tlws yn llythrennol yn cynnwys darn unigryw o dirwedd Cymru.

Mae tocynnau ar gyfer Raffl Profiadau Gorau Cymru nawr ar werth. Mae tocynnau’n costio £5 a bydd yr elw yn ariannu prosiectau sy’n ymgysylltu cymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol â’r celfyddydau. Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu tocynnau, anfonwch e-bost at contactus@aandbcymru.org.uk