Llywodraethu
Mae llywodraethu cryf ac effeithiol yn allweddol i lwyddiant pob sefydliad, beth bynnag eu maint neu sector. Dylai pob Bwrdd ddeall eu rolau a’u cyfrifoldebau yn llawn, cydweithio’n llwyddiannus, a meddu ar yr ystod gywir o sgiliau. Mae C&B Cymru yn cynnig rhaglenni a gwasanaethau Llywodraethu gwerthfawr sy’n helpu sefydliadau celfyddydol i gyflawni eu potensial, gan gynnwys:
Llun: One Flew Over the Cuckoo’s Nest, gan Carrie Francis
Banc Bwrdd
Mae Banc Bwrdd yn cryfhau llywodraethu sefydliadau celfyddydol drwy osod rheolwyr busnes ag arbenigedd arbenigol ar eu Byrddau fel cyfarwyddwyr anweithredol ac ymddiriedolwyr.
Amrywiaeth mewn Llywodraethu
Mae Amrywiaeth mewn Llywodraethu yn ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Amrywiol, yn ogystal â’r rhai sy’n Anabl, B/byddar a/neu Niwroamrywiol ac yn eu gosod ar Fyrddau Celfyddydau er mwyn dylanwadu ar benderfyniadau sefydliadol.
Cyrsiau Hyfforddi
Mae C&B Cymru yn defnyddio ei arbenigedd a'i rwydwaith i ddarparu cyrsiau o ansawdd uchel sy'n helpu rheolwyr celfyddydol i sicrhau llywodraethu cryf ac effeithiol. Cynigir Cyrsiau Pwrpasol hefyd i Fyrddau unigol.
Gweithwyr Proffesiynol Ifanc ar Fyrddau
Mae Gweithwyr Proffesiynol Ifanc ar Fyrddau yn gosod arweinwyr busnes y dyfodol, rhwng 21 a 35 oed, ar Fyrddau sefydliadau celfyddydol er mwyn dylanwadu ar benderfyniadau sefydliadol.