Sgiliau Busnes
Mae C&B Cymru yn cyflwyno amrywiaeth o raglenni sy’n helpu unigolion sy’n gweithio yn y celfyddydau i ddatblygu’r sgiliau busnes sydd eu hangen arnynt i redeg eu sefydliadau’n effeithlon ac yn effeithiol. Maent yn cynnwys:
- Banc Mentora
- Banc Sgiliau
- Cyrsiau Hyfforddi
Llun: Hijinx
Banc Mentora
helpu rheolwyr celfyddydol i ddatblygu i'w llawn botensial drwy eu paru ag uwch weithredwyr busnes. Gan ganolbwyntio ar anghenion datblygu'r unigolyn, mae'r mentor yn gweithredu fel seinfwrdd amhrisiadwy ac yn rhoi hyder.
Banc Sgiliau
paru arbenigedd penodol rheolwyr busnes ag anghenion sefydliadau celfyddydol. Mewn lleoliad tymor byr, rhan-amser, trosglwyddir sgiliau’r ymgynghorydd i reolwr celfyddydol, gan helpu mewn meysydd fel Cynllunio Busnes, Marchnata neu Gyllid.
Cyrsiau Hyfforddi
Mae C&B Cymru yn defnyddio ei arbenigedd a'i rwydwaith i ddarparu cyrsiau hyfforddi o ansawdd uchel sy'n helpu rheolwyr celfyddydol i ddatblygu sgiliau hanfodol. Mae'r pynciau'n cynnwys Cyllid, Strategaeth, Marchnata ac AD.
Cyrsiau Pwrpasol
Cynigir Cyrsiau Pwrpasol hefyd i sefydliadau unigol mewn ystod o sgiliau busnes.