Mynd i'r cynnwys

Gwobrau C&B Cymru 2025

Dathlu 30 Mlynedd o Lwyddiant Partneriaeth

Ers 30 mlynedd, mae Gwobrau Celfyddydau & Busnes (C&B) Cymru wedi bodoli i annog, cydnabod a dathlu partneriaethau enghreifftiol rhwng y sector preifat a’r celfyddydau.

Bydd 30ain Gwobrau C&B Cymru yn cael eu lansio ar nos Mercher 22 Ionawr 2025, pan gyhoeddir manylion y seremoni tei du blaenllaw.

Cliciwch yma i wylio Lansiad Gwobrau 2025 yn fyw o 6.30yh – 7.15yh ar 22 Ionawr.

Bydd y 30ain seremoni’n cael ei noddi am y tro cyntaf gan Hern & Crabtree, gwerthwr tai annibynnol hynaf Caerdydd. Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr y busnes, Nigel John: Ar ôl blynyddoedd o noddi categorïau a phrosiectau gyda balchder, yn ogystal â mynychu digwyddiadau C&B Cymru, rydym wrth ein bodd o gael ein henwi’n Brif Noddwr ar gyfer Gwobrau 2025. Mae’n amser cyffrous i fod yn rhan o’u dathliadau pen-blwydd yn 30 oed ac edrychwn ymlaen at gefnogi llwyddiant parhaus y bartneriaeth anhygoel hon.

Cynhelir Raffl Profiadau Cymreig yn y digwyddiad, gyda’r elw yn cefnogi prosiectau sy’n ymgysylltu cymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol â’r celfyddydau. Mae manylion y gwobrau sydd ar gael i’w gweld yma. Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu tocynnau, anfonwch e-bost at contactus@aandbcymru.org.uk am ragor o wybodaeth.

Bydd cyfnod yr enwebiadau yn agor yn swyddogol ar 23 Ionawr, pan fydd y gwaith o chwilio am gydweithrediadau creadigol gorau Cymru yn dechrau.

Gellir dod o hyd i Enillwyr a Rownd Derfynol 2024 yn: Gwobrau C&B Cymru 2024 – Arts & Business Cymru