Gwobrau Celfyddydau & Busnes Cymru 2025
Partneriaethau creadigol gorau Cymru wedi’u cydnabod mewn seremoni lloeren, yn dathlu 30 mlynedd o Wobrau nodedig.
Cynhaliwyd Gwobrau Celfyddydau & Busnes (C&B) Cymru 2025 yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru ar nos Iau 19 Mehefin.
Cafodd yr achlysur, sydd wedi annog a dathlu rhagoriaeth mewn partneriaethau rhwng y sector preifat a’r celfyddydau am 30 mlynedd, ei noddi am y tro cyntaf gan Hern & Crabtree, asiantau tai annibynnol hynaf Caerdydd.
Mae’r dathliad blynyddol yn gweld cwmnïau o bob maint, sy’n seiliedig ar draws Cymru, yn cystadlu i ennill y gwobrau chwenychedig. O Gymdeithasau Tai i sefydliadau cyfreithiol, roedd y rhestr fer yn cynrychioli’r nifer o ddulliau eang y mae busnesau’n gweithio gyda’r celfyddydau i gyflawni nodau pendant. Cyrhaeddodd 19 busnes a’u partneriaid celfyddydol y rhestr fer ar gyfer 2025.
Datgelwyd enillwyr y 10 categori yn y seremoni tei du a gyflwynwyd gan y darlledwyr Caryl Parry Jones a Huw Stephens. Personoliaethau adnabyddus, gan gynnwys actorau Pal Aron, Rakie Ayola, Di Botcher, Mark Lewis-Jones, Suzanne Packer a Eiry Thomas, cyn-Fardd Plant Cymru, yr artist amlddisgyblaethol Connor Allen, athletwyr Olympaidd a darlledwyr Colin Jackson a Jamie Baulch a’r cyflwynydd a dyluniwr Anna Ryder Richardson, a gymerodd i’r llwyfan i gyflwyno tlysau i’r enillwyr.
Darparwyd adloniant anhygoel y noson gan y Drum Waiters a Graffiti Classics.
Dywedodd Prif Weithredwr C&B Cymru, Rachel Jones, Wrth i ni nodi 30 mlynedd ers sefydlu Gwobrau C&B Cymru, mae’n amser delfrydol i adlewyrchu ar lwyddiannau’r gorffennol a chynllunio ar gyfer dyfodol llwyddiannus. O’r cychwyn cyntaf, mae cred ym mhŵer y celfyddydau i gyfoethogi bywydau a bod o fudd i’r gymdeithas gyfan wedi bod wrth galon ein gwaith. Mewn tirwedd sy’n newid yn gyflym, mae C&B Cymru yn gyson yn annog partneriaethau sy’n fwyfwy arloesol a phellgyrhaeddol rhwng y ddau sector. Daw hyn yn amlwg wrth weld nifer ac ansawdd yr enwebiadau a gyflwynwyd o bob cornel o Gymru yn ystod y flwyddyn hon o ddathlu sefydlu’r gwobrau. Roedd y beirniaid annibynnol wedi eu hysbrydoli a’u heffeithio gan y prosiectau – bach a mawr, newydd a sefydledig – a dymunent longyfarch pob busnes a phartner celfyddydol a enwebwyd yn 2025. Yn syml, byddai’n amhosibl i ni gynnal ein prif ddigwyddiad heb ein Partneriaid Gwobrau. Rydym yn hynod ddiolchgar iddynt oll am eu gweledigaeth a’u cefnogaeth ddiwyro, ac edrychwn ymlaen at flwyddyn lwyddiannus arall o bartneriaeth.
Cliciwch yma i weld ein Oriel Wobrau 2025.
Mae rhagor o fanylion am y digwyddiad, gan gynnwys yr enillwyr, i’w gweld isod.
Y Wobr Robert Maskrey am Ddyngarwch Celfyddydol
Enillydd: Joseph Boughey
Gwobr Ymgynghorydd y Flwyddyn, noddir gan Grant Stephens Family Law
Enillydd: Jonathan Chitty, Port of Milford Haven a SPAN Arts
Yn y Rownd Derfynol: Giovanni Basiletti, Burges Salmon LLP a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
Yn y Rownd Derfynol: Sian Humpherson, Snowdonia Hospitality & Leisure a Cywaith Dawns
Yn y Rownd Derfynol: Yeota Imam-Rashid, Ymgynghorydd Llawrydd a Theatr na nÓg
Celfyddydau, Busnes a’r Gymuned, noddir gan Wales & West Utilities
Enillydd: Port of Milford Haven a Theatr Torch
Yn y Rownd Derfynol: Bad Wolf a The Other Room Theatre
Yn y Rownd Derfynol: Pendine Park Care Organisation a Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru
Celfyddydau, Busnes ac Amrywiaeth, noddir gan Sony
Enillydd: First Choice Housing Association a Gig Buddies Cymru
Yn y Rownd Derfynol: Grant Stephens Family Law a Hijinx
Yn y Rownd Derfynol: The Queer Emporium a Menter Caerffili
Celfyddydau, Busnes a Gweithwyr
Enillydd: Grant Stephens Family Law ac Act Now Creative Training
Yn y Rownd Derfynol: Association of Directors of Social Services Cymru a Hijinx
Yn y Rownd Derfynol: Cloth Cat a Cardiff Animation Festival
Celfyddydau, Busnes a’r Amgylchedd, noddir gan Bluestone Wales a The Waterloo Foundation
Enillydd: Cartrefi Conwy a Benjamin C Dearnley
Yn y Rownd Derfynol: Bute Energy a Llenyddiaeth Cymru
Yn y Rownd Derfynol: Linc Cymru a Tanio
Celfyddydau, Busnes ac Iechyd, noddir gan Cartrefi Conwy
Enillydd: Rubicon Facilities Management a Dawns Rubicon
Yn y Rownd Derfynol: Canolfan Gofalwyr Abertawe a Cerebra a Grand Ambition
Yn y Rownd Derfynol: RWE Renewables Swindon a Cywaith Dawns
Busnes y Flwyddyn
Enillydd: Rubicon Facilities Management
Yn y Rownd Derfynol: First Choice Housing Association
Yn y Rownd Derfynol: Grant Stephens Family Law
Gwobr Celfyddydau Hodge Foundation
Enillydd: Dawns Rubicon
Yn y Rownd Derfynol: Gig Buddies Cymru
Yn y Rownd Derfynol: Hijinx
Gwobr Celfyddydau Nicola Heywood Thomas
Enillydd: Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru
Mae’r Gwobrau yn bosibl diolch i gefnogaeth gan amrywiaeth o bartneriaid allweddol C&B Cymru. Cynhelwyd y prif ddigwyddiad am y tro cyntaf gan werthwyr tai annibynnol hynaf Caerdydd, Hern & Crabtree, sy’n arwain rhestr drawiadol o gefnogwyr.
Y partneriaid categori yn 2025 oedd Bluestone Wales, Cartrefi Conwy, Hodge Foundation, Grant Stephens Family Law, Sony UK Technology Centre, Wales & West Utilities a The Waterloo Foundation.
Mae C&B Cymru hefyd yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid digwyddiadau i sicrhau llwyddiant y noson. Ar gyfer 2025, nhw oedd: Noddwr Adloniant, Prifysgol De Cymru, Partner Cyfryngau, Orchard, Partner Dylunio Ubiquity, Partner Gwestai Park Plaza Cardiff, Partner Trafnidiaeth FlightLink Wales ac Intercity Removals, yn ogystal â Phartneriaid Diodydd Barti, Penderyn Distillery a Ty Nant.
Daw Beirniaid 2025 o amrywiaeth o sectorau ac mae ganddynt arbenigedd mewn ffurfiau celf ymarferol, nawdd a nodau’r sector preifat.
Yr unigolion a ymgymerodd â’r dasg sylweddol o feirniadu categorïau’r partneriaethau busnes oedd Actor a Chynhyrchydd Rakie Ayola a enillodd BAFTA; Cyfarwyddwr Cwmni Hern & Crabtree, Mike Baillie; Seicolegydd Busnes a Chyfarwyddwr Bowen Hopkins, Lorraine Hopkins a Giles McNamara, Cyfarwyddwr Cyllid Bluestone Cymru.
Cafodd Ymgynghorydd y Flwyddyn ei feirniadu gan dri chefnogwr allweddol o Raglenni Datblygiad Proffesiynol C&B Cymru. Yr oeddynt Gyfarwyddwr Data a Gweithrediadau yn Go.Compare, Hoodi Ansari; Cyn-Gyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, y Mezzo Soprano Ann Atkinson a Grant Stephens, Rheolwr Gyfarwyddwr Grant Stephens Family Law.
Unwaith eto, derbyniodd enillwyr Gwobrau 2025 tlysau a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer y seremoni. Cafwyd eu dylunio a’u creu gan y gof, artist gosodwaith a cherflunydd Angharad Pearce Jones o Orllewin Cymru. Defnyddiodd hi’r daflen olaf erioed o ddur Cymreig crai o ffwrnais chwyth Tata Steel ym Mhort Talbot i greu’r darnau unigryw. Maent yn dathlu symlrwydd y plât dur, tra’n cynrychioli hadau newid, twf menter werdd a’r celfyddydau creadigol.
Mae’r elw yn ariannu prosiectau sy’n ymgysylltu cymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol â’r celfyddydau